Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nadolig hapus a ddiogel

Published: 10/12/2014

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint yn dymuno Nadolig hapus iawn a diogel i holl ymwelwyr a thrigolion Sir y Fflint. Fel rhan o weithgareddaur tîm syn arwain at y Nadolig, mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu er mwyn annog mwy o ymwybyddiaeth am ddiogelwch personol. Mae pedwar digwyddiad wedi cael eu trefnu mewn archfarchnadoedd ar draws y sir syn cynnig pob math o gyngor atal troseddu syn gysylltiedig â’r Nadolig: bod yn ddiogel, marcio eiddo, cerbydau, gadael pethau gwerthfawr iw gweld a diogelwch personol. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Yn ystod yr wythnosau syn arwain at y Nadolig, mae pobl yn tueddu i gario mwy o arian, gadael anrhegion maent wedi eu prynu lle gall rhywun eu gweld yn y cartref ac mewn ceir - a gall fod yn enillion hawdd i droseddwr manteisgar. “Dwyn pyrsiau a waledi yw un or prif feysydd syn peri pryder i ni. Yn ystod y digwyddiadau archfarchnad, bydd gwregysau pwrs a waled ar gael i bobl, os oes angen. Dywedodd Uwch-arolygydd Sacha Hatchett,o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Heddlu Gogledd Cymru, fel rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint, am ir trigolion ar ymwelwyr â Sir y Fflint aros yn ddiogel dros yr wyl. Drwy godi ymwybyddiaeth yn y modd hwn gallwn helpu ein cymunedau i helpu eu hunain. Mae hyn hefyd yn ffordd wych i swyddogion or Cyngor ar Heddlu i gwrdd ag aelodau or cyhoedd a mynd ir afael ag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt er mwyn gwneud eu hunain au heiddo yn fwy diogel. “Mae dau ddigwyddiad llwyddiannus eisoes wediu cynnal ym Mrychdyn ar Wyddgrug, ac rwyn hyderus y bydd y digwyddiadau yn y Fflint a Queensferry yn cael yr un derbyniad da. Bydd y tîm yn yr archfarchnadoedd canlynol: Sainsbury’s Fflint - Dydd Gwener 12 Rhagfyr Asda Queensferry - Dydd Llun 15 Rhagfyr Llun Rhai or tîm Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Tesco ym Mharc Brychdyn: Yn y llun o’r chwith i’r dde: Richard Owens - Warden Cymdogaeth, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Sue Holmes,Tom Williams - Warden Cymdogaeth, Alex Lewis – Cefnogwr Cymunedol, Tesco Parc Brychdyn