Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru (drafft)

Published: 11/12/2014

Ymgynghoriad Cyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru (drafft): 24 Tachwedd 2014 tan 5 Ionawr 2015 Cynhelir digwyddiad ymgynghori ar Gyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru drafft ddydd Llun 15 Rhagfyr o 1pm tan 7pm yn Neuadd Tref yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Maer digwyddiad yn gyfle i aelodau o’r cyhoedd a budd-ddeiliaid drafod a rhoi sylwadau ar yr ymyriadau sydd wedi eu cyflwyno yng Nghyd-Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015-2020. Maer cynllun yn cynnwys Cyngor Ynys Môn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Sir Ddinbych; Cyngor Sir y Fflint; Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n nodi eu gweledigaeth i ‘oresgyn rhwystrau i dwf economaidd, ffyniant a lles drwy ddarparu rhwydweithiau cludiant diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol. Gobeithir y bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu seilwaith cyfalaf syn helpu i gyflawni twf economaidd yng ngogledd Cymru a darparu gwell mynediad i wasanaethau a swyddi drwy ymyrraeth lefel uwch. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd, “Maer cynllun cludiant lleol drafft yn effeithio arnom ni i gyd ac anogaf bawb i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Gellir darllen y cynllun drafft yn www.taith.gov.uk/taith-joint-board/consultation/. I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch LTP@gwynedd.gov.uk.” Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 5 Ionawr 2015.