Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Bathodyn Glas Diwygiedig
Published: 11/12/2014
Mi fydd newidiadau i’r cynllun Bathodyn Glas yn cael eu trafod yng Nghabinet
Cyngor Sir y Fflint ar Ddydd Mawrth 16 Rhagfyr.
Mae proses dyrannu a gorfodaeth ynghylch Bathodynnau Glas yn y sir yn newid.
Mi fydd ymgeiswyr newydd nad ydynt yn cyrraedd y meini prawf awtomatig yn
derbyn asesiadau wyneb yn wyneb mewn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Nid oes angen i’r Cyngor gysylltu â meddygon teulu ar gyfer tystiolaeth
feddygol gefnogol bellach; yn hytrach mi fydd y cwsmer yn gallu defnyddio ei
dystiolaeth ei hun er mwyn cefnogi ei gais, er enghraifft, presgripsiynau,
asesiadau therapydd galwedigaethol ac addasiadau i’w dy.
Ni fydd angen i ymgeiswyr sy’n cymhwyso am Fathodyn Glas yn awtomatig angen
mynychu apwyntiad asesu, ond mi fydd angen iddynt lenwi ffurflen gais.
Cynigir hefyd bod y Cyngor yn cyflwyno ffi o £10 ar gyfer Bathodyn Glas newydd.
Mi fydd gofyn hefyd i aelodau’r Cabinet fabwysiadu gorfodi parcio Bathodyn Glas
drwy’r Gwasanaeth Gorfodi Parcio Sifil.
Mae Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil yn aml yn dystion i gamddefnyddio
bathodynnau glas. Os caiff gorfodi ei gymeradwyo gan y Cabinet, yna mi fydd
gennyn nhw’r pwer, lle bo’r angen, i gadw’r bathodyn, os oes ganddynt resymau
digonol i gredu bod y bathodyn yn ffug neu’n cael ei gamddefnyddio mewn unrhyw
ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar
Dirprwy Arweinydd,
“Mi fydd y cynllun Bathodyn Glas diwygiedig yn sicrhau gwasanaeth llawer gwell
a mwy effeithlon i’n cwsmeriaid. Mae camddefnyddio bathodynnau’n broblem a
dwi’n croesawu gorfodaeth ynghylch defnyddio bathodynnau glas ochr yn ochr â
Gorfodi Parcio Sifil.