Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Canol Blwyddyn o Bartneriaethau Strategol

Published: 11/12/2014

Mi fydd asesiad canol blwyddyn o weithio mewn partneriaeth strategol yn cael ei drafod yng Nghabinet Cyngor Sir y Fflint ar Ddydd Mawrth 16 Rhagfyr. Mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint wedi’i wneud o arweinwyr nifer o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Caiff y BGLl ei gefnogi hefyd gan nifer o bartneriaethau strategol, gan gynnwys y bwrdd ‘Mae Pobl yn Ddiogel’ a’r bwrdd Iechyd, Lles ac Annibyniaeth. Mae’r BGLl yn gweithio tuag at bedair blaenoriaeth, sef: Arwain trwy esiampl fel cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol Mae pobl yn ddiogel Mae pobl yn mwynhau iechyd da, lles ac annibyniaeth Arferion amgylcheddol sefydliadol. Mi fydd aelodau’r Cabinet yn trafod asesiad canol blwyddyn or pedair blaenoriaeth yma. Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn hon hyd yn hyn wedi cynnwys: · Gweithio mewn partneriaeth i gynyddur nifer o Brentisiaethau, Hyfforddeiaethau a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith ledled y sir. Mae un ar ddeg o fusnesau hunan gyflogedig wedi cael eu cefnogi drwy ddigwyddiadau Dragons’ Den y sir. Mae datblygiad y Rhaglen Entrepreneur Ifanc gyda Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint hefyd wedi’i gefnogi. Un dangosydd o lwyddiant y prosiect yw’r lleihad yn y canran o bobl 18 i 24 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (o 5.7% yn Haf 2013 i 3.6% yn Medi 2014). · Mae dull aml-asiantaeth wedi arwain at fwy o bobl yn teimlo’n hyderus i roi gwybod am gam-drin domestig a throseddau trais rhywiol i Heddlu Gogledd Cymru. Penodwyd y Cyngor yn ddiweddar fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad Rhuban Gwyn, am ei gwaith i daclo cam-drin domestig. · Mi fu gweithio mewn partneriaeth llwyddiannus gyda Chanolfannau Cyngor ar Bopeth i ddarparu cefnogaeth cyllidebu personol. · Ehangu Dechrau’n Deg yn y sir. Dechrau’n Deg ydy rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru sy’n gweithio gyda theuluoedd i wella cyfleodd bywyd plant mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Yn Sir y Fflint, caiff ei weinyddu gan Gyngor y Sir mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd. Mae’r rhaglen sydd wedii hehangu’r wedi cynyddu’r ddarpariaeth i Queensferry, Mancot a ward Golftyn Cei Connah. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n bleser fawr nodi’r gwaith ardderchog sy’n digwydd ar draws y Sir drwy gydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae’r dull llwyddiannus yma o weithio mewn partneriaeth yn fuddiol in cymuned leol ac edrychwn ymlaen at weld ei lwyddiant parhaol.