Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnesau bwyd: ydych chin barod ar gyfer y newidiadau ym maes gwybodaeth am alergeanu bwyd?

Published: 18/12/2014

Mae tîm Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa busnesau bwyd yn y sir bod rheolau newydd wedi dod i rym a fydd yn effeithio ar y modd y maent yn darparu gwybodaeth am alergenau. O 13 Rhagfyr 2014 ymlaen, bydd angen i bob busnes bwyd esbonio neu dynnu sylw ar lafar at wybodaeth am unrhyw alergenau yn y bwyd y maent yn ei werthu neu ei ddarparu. Gall alergeddau bwyd achosi adwaith a all beryglu bywyd ac mae’r nifer sy’n dioddef o’r cyflwr hwn yn tyfu. Adwaith alergaidd yw’r prif reswm dros farwolaethau’n gysylltiedig â bwyd yn y DU ac mae’n digwydd pan gaiff bwyd ei fwyta’r tu allan i’r cartref lle na chafodd cynhwysion alergenig eu cyhoeddi. Mae’r rheolau newydd yn golygu y bydd yn rhaid i bob busnes bwyd roi gwybod i gwsmeriaid os yw’r bwyd yn maent yn ei wneud neu ei weini’n cynnwys unrhyw un o 14 o gynhwysion alregenig. Gellir gwneud hyn drwy gynnwys y wybodaeth ar y fwydlen, eu hesbonio ar lafar neu drwy ddweud wrth y cwsmer sut i gael hyd i ragor o wybodaeth. Er mai’r mis hwn y daw rheolau newydd yr UE i rym, maent wedi’u cyhoeddi ers mis Hydref 2011, a hynny er mwyn rhoi tair blynedd i fusnesau bwyd baratoi ar gyfer y darpariaethau newydd. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: ‘Bydd angen i bob busnes bwyd yn Sir y Fflint ddarparu’r wybodaeth hanfodol hon yn awr. Rydym yn deall bod busnesau bwyd yn gweithio oriau hir, ac mai prin yw’r amser sydd ganddynt i ddarllen drwy’r canllawiau newydd. Fodd bynnag, mae gwybodaeth hawdd ei deall ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i helpu busnesau gyda’r newidiadau hyn. ‘Mae’n ofynnol i fusnesau, yn ôl y gyfraith, roi gwybodaeth glir a chywir am alergenau. Os oes angen cyngor ac arweiniad ar unrhyw fusnes ynglyn â’r rheolau newydd, gallant gysylltu â swyddog diogelwch bwyd eu hawdurdod lleol a fydd yn gallu helpu’. Dywedodd Hilary Neathey o Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: ‘Mae alergeddau bwyd yn effeithio ar oddeutu 5-8% o blant ac 1-2% o oedolion. Mae hyn yn golygu bod tua 2 filiwn o bobl yn y DU yn byw ag alergedd bwyd. Gall pobl ag alergedd bwyd adweithio i fymryn bach o fwyd fel llond llwy de o iogwrt, un gneuen ddaear neu hyd yn oed sglien wy ar bastai. ‘Does dim gwellhad i’r rhai sydd ag alergedd bwyd, felly’r unig ffordd i bobl reoli’r cyflwr yw drwy osgoi’r bwyd sy’n eu gwneud yn sâl. Dyma pam mae’n bwysig cynnwys gwybodaeth a labeli clir am alergeddau bwyd, a pham mae busnesau bwyd, awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth glir a chywir.’ Mae cyngor ar gael ar www.food.gov.uk/allergy