Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pac Gwepra ymhlith Parciau Gorau Cymru, yn ôl y BBC!

Published: 15/01/2015

Mae Parc Gwepra yng Nghei Connah wedi cael ei gydnabod fel un o Barciau Gorau Cymru. Bydd prif barc Cyngor Sir y Fflint yn destun rhaglen hanner awr ar BBC1 Wales nos Lun nesaf (19 Ionawr). Cyfres gan y BBC sy’n tynnu sylw at bedwar parc yw Iolo’s Great Welsh Parks a bydd yn dangos bywyd gwyllt yn y parciau yn ystod y pedwar tymor. Cafodd Parc Gwepra, y ceidwaid, y gwirfoddolwyr a’r bywyd gwyllt ei ffilmio drwy gydol 2014. Ymunodd y cyflwynydd, Iolo Williams, â’r Ceidwaid Cefn Gwlad wrth iddynt chwilio am y fadfall gribog brin; bu hefyd yn dilyn olion moch daear ac yn dod wyneb yn wyneb â llygoden y maes. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rwy’n falch iawn, er nad yw’n fawr o syndod, fod Parc Gwepra yn cael ei ystyried yn un o Barciau Gorau Cymru. Mae’n braf gweld bod y parc yn cael cymaint o sylw mewn slot boblogaidd ar BBC1 Wales. Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r rhaglen nos Lun, 19 Ionawr am 7.30pm. Os byddwch yn methu’r rhaglen bydd ar gael i’w gwylio eto ar BBC iPlayer am wythnos wedyn.” Ychwanegodd Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint, Sarah Slater, a gafodd ei ffilmio gyda Iolo: “Roedd gweithio gyda’r tîm cynhyrchu yn brofiad cyffrous iawn – cawsom weld sut y maent yn llwyddo i gael lluniau mor wych. Rwy’n edrych ymlaen at weld ein rhaglen bywyd gwyllt ein hunain ar y teledu. Gallwch weld gwefan y rhaglen yma: http://www.bbc.co.uk/programmes/b04ynn64 i gael rhagor o wybodaeth. (Gweler y ffeil sydd ynghlwm)