Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai am ddim i yrwyr hyn

Published: 20/01/2015

Mae gyrwyr 65 oed neu’n hyn yn cael cynnig sesiwn yrru am ddim. Cynhelir gweithdai am ddim gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint i bobl dros 65 oed sy’n ystyried mynychu asesiad gyrru am ddim neu sy’n adnabod rhywun arall a hoffai wneud hynny. Gall hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru gynnig cyngor defnyddiol ynglyn â sut i addasu’ch arddull gyrru wrth fynd yn hyn. Bydd hyn yn eich helpu chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd i gadw’n ddiogel a’ch cadw chi y tu ôl i’r llyw yn hirach. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rwy’n annog pob preswylydd dros 65 oed i achub ar y cyfle hwn i gael sesiwn yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, gall y newidiadau yr ydym yn mynd trwyddyn nhw effeithio ar y ffordd yr ydym yn gyrru. Rhai o’r rhain o bosibl yw y bydd ein hamser ymateb yn arafu, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser i ddod i benderfyniadau a gall gyrru fod yn fwy blinedig a straenllyd. Mae rhai gyrwyr yn sylwi ar y newidiadau hyn mor gynnar a chanol eu pumdegau. Wrth iddyn nhw heneiddio, gall y mwyafrif o bobl ddal ati i yrru’n ddiogel heb unrhyw broblemau, ond mae hyn yn haws i’w wneud gydag ychydig o help gan weithiwr gyrru proffesiynol.” Cynhelir dau weithdy am ddim yn Sir y Fflint sef dydd Iau 22 Ionawr am 1.30pm yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas, Maes Glas, CH8 7GR; a’r llall ddydd Mercher 11 Chwefror am 1.30pm yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. I archebu lle yn un o’r gweithdai, neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.