Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

Published: 16/01/2015

Bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor blynyddol ddydd Mawrth (20 Ionawr). Maer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn ostyngiad a delir i aelwydydd ar incwm isel iw helpu nhw i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Maen gynllun cenedlaethol gyda’r prif reoliadau yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru, gan roi rhai pwerau i Gyngor Sir y Fflint wneud penderfyniadau. Maer Cyngor yn bwriadu parhau i ddefnyddior un meysydd o ddisgresiwn â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Sef: - parhau i anwybyddu pensiynau anabledd rhyfel a phensiynau gweddwon rhyfel fel incwm. - peidio â chynyddur cyfnod talu estynedig i fwy na phedair wythnos pan fydd ymgeisydd yn dechrau gweithio. - cynnal y darpariaethau ôl-ddyddio tri mis safonol ar gyfer pensiynwyr pan roddir rheswm da dros fethu hawlio ynghynt. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Er nad oes unrhyw arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannur elfennau dewisol, rydw i’n falch o ddweud bod Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor arfaethedig Sir y Fflint ar gyfer 2015-2016 yn cefnogi parhau i ddiystyru pob pensiwn anabledd rhyfel a phensiwn gweddwon rhyfel fel incwm.”