Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad gofal dementia

Published: 29/04/2014

Mae adolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi amlygu’r cymorth cadarnhaol y mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn ei ddarparu i bobl gyda dementia a’u gofalwyr. Roedd yr adroddiad, a ryddhawyd ar 16 Ebrill yn amlygu gwasanaeth Byw’n Dda y Cyngor fel model o arfer da. Mae Byw’n Dda yn cefnogi pobl gyda dementia i fyw gartref trwy gynnig cymorth teilwredig sydd wedi’i seilio ar ddealltwriaeth glir o’u bywyd yn y gorffennol, a’u cryfderau a’u dymuniadau personol. Yn bwysig mae gan staff y disgresiwn i amrywio’r cymorth a ddarperir yn ôl y sefyllfa ar y diwrnod. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol a’r Eiriolwr dros Bobl Hyn: “Rwyf yn falch iawn fod Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd ar ofal dementia, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad hwn. Mae’n gwasanaethau megis caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol a chymorth gofal cartref o ansawdd, ble mae staff tra hyfforddedig yn cymryd amser gyda phobl, yn rhoi’r gofal a haeddant i’n preswylwyr.” Mae adroddiad AGGCC yn cydnabod y gwerth a’r ffocws y mae’r Cyngor yn ei roi ar ansawdd a gwasanaethau ymatebol ac yn pwysleisio polisi’r Cyngor i beidio â chywasgu ymweliadau i gefnogi pobl gartref i 15 munud. Bydd adroddiad ar yr arolygiad yn cael ei gyflwyno i Gynghorwyr yng nghyfarfod Trosolwg a Chraffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ar ddydd Iau 1 Mai. Yr adroddiad fydd y cam cyntaf wrth ddatblygu cynllun gweithredu rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd i adeiladu ar arfer da ac i ddatblygu gwasanaethau a gweithio ar y cyd effeithiol ymhellach. Mae copi llawn o adroddiad arolygu AGGCC i’w gael ar www.cssiw.org.uk