Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Arfordir Sir y Fflint

Published: 16/01/2015

Bydd strategaeth a phrosbectws ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn cael eu cymeradwyo yn y Cabinet ddydd Mawrth (20 Ionawr). Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn cael mynediad i arfordir Sir y Fflint, gyda gwahanol grwpiau a mentrau lleol am ddatblygu ardaloedd ymhellach ac yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i gael cyllid grant. Maer Cyngor bellach wedi datblygu strategaeth fframwaith ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint, a fydd yn cysylltu datblygiadau arfordirol Sir y Fflint. Maer strategaeth hefyd yn darparu cyfeirbwynt ar gyfer y rhai syn dymuno cael mynediad i gyfleoedd ariannu. Mae prosbectws wedi ei gynhyrchu syn cynnwys chwech o ganolfannau ar hyd arfordir unigryw Sir y Fflint – ym Mhorth y Gogledd, Doc Cei Connah, Glannau’r Fflint, Cilfach Bagillt a Bettisfield Hill, Maes-glas a Thalacre - lle bydd pobl yn gallu cael mynediad i Llwybr Arfordir Cymru ar llwybr beicio a’u mwynhau. Maer ddogfen hefyd yn nodi blaenoriaethau Parc Arfordir Sir y Fflint, syn cynnwys gwella twristiaeth, gweithgareddau hamdden a diwylliannol; gwella mynedfeydd, ac adfywior dociau. Maen rhoi manylion gweledigaeth ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn 2034, gan ragweld amgylchedd hygyrch o ansawdd uchel gyda darpariaeth twristiaeth a hamdden ffyniannus a threftadaeth ddiwylliannol enwog. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd, “Rydym yn hynod o falch o arfordir bras ac amrywiol Sir y Fflint. Mae sefydlu fframwaith ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint yn sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig i ofalu am ein hamgylchedd arfordirol a bod ein harfordir yn cadw ei enw da fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden. Gellir gweld copi or prosbectws drafft ar raglen y Cabinet ar wefan y Cyngor, www.siryfflint.gov.uk