Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Gofal Canolraddol

Published: 16/01/2015

Bydd llwyddiant cronfa flwyddyn i gefnogi gwasanaethau Gofal Canolraddol newydd neu ychwanegol, ac i annog gweithio integredig rhwng awdurdodau lleol, Iechyd a phartneriaid eraill, yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth (20 Ionawr). Mae gwasanaethau gofal canolraddol yn cael eu darparu i gleifion iw helpu i osgoi mynd ir ysbyty yn ddiangen, eu helpu i fod mor annibynnol â phosibl ar ôl eu rhyddhau or ysbyty, a’u rhwystro rhag gorfod symud i mewn i gartrefi preswyl neu gartrefi nyrsio nes y mae angen iddynt wneud hynny. Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer 2014/15 ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn arwain y gwaith o reolir gronfa ar ran Gogledd Cymru. Roedd cais Sir y Fflint yn seiliedig ar ffocws cyson ar wella gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia. Drwyr Gronfa, mae nifer o brosiectau wedi eu cyflwynon llwyddiannus yn y sir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar gefnogi pobl yn y gymuned. Maer rhain yn cynnwys buddsoddi mewn dulliau cam i lawr ar gyfer pobl syn barod i ddod allan or ysbyty ond sydd angen rhagor o gefnogaeth yn y gymuned cyn y gallant ddychwelyd adref. Maer Gronfa wedi galluogi rhoi gwelyau cam i lawr gofal canolraddol mewn tri chartref gofal (Llys Gwenffrwd, Marleyfield a Chroes Atti). Mae gwely hefyd wedi ei ddarparu yn Nhy Cerrig, Caergwrle, er mwyn caniatáu ar gyfer asesiad dementia yn y gymuned. Yn y gymuned, maer gronfa wedi caniatáu i ofal dementia arbenigol gael ei ymestyn. Maer gronfa hefyd wedi cefnogi gweithion agos gydar sector gwirfoddol gan gynnwys Gofal a Thrwsio Sir y Fflint, sydd â staff wedi eu hyfforddin arbennig i ddarparu cymorth ymarferol i bobl sydd â thueddiadau casglu, fel y gallant ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. Maer Gronfa hefyd wedi ei defnyddio i gefnogi cyflwyno opsiynau tai gwell i bobl hyn. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel sir sy’n arwain y ffordd o ran gofal dementia, gyda gwasanaethau fel caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol a chefnogaeth gofal yn y cartref o safon. Rwyf yn hynod o falch bod y Gronfa Gofal Canolraddol wedi ein galluogi i ddarparu cefnogaeth a chyfleusterau ychwanegol, ai fod wedi ein galluogi i adeiladu ar ein partneriaethau i sicrhau bod mwy o wasanaethau gwell ar gyfer yr holl breswylwyr.