Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefluniaun coroni gwaith adfywio ar hyd y glannau yn Saltney

Published: 04/02/2015

Mae pedwar cerflun newydd wedi’u gosod ar y llwybr beicio rhwng River Lane, Saltney, a phont droed Saltney Ferry. Mae’r cerfluniau’n rhan o brosiect amlasiantaeth ar y themâu: treftadaeth, y celfyddydau, hygyrchedd a bywyd gwyllt ar hyd y llwybr beicio. Mae’r pedwar cerflun 7 troedfedd, pwrpasol hyn, gan yr artist nodedig, Mike Johnson,  wedi’u creu i adlewyrchu goleuni ar hyd yr arfordir a’r planhigion lleol a welodd plant ysgol lleol yn ystod ymweliad â’r safle’r llynedd yng nghwmni Mike. “Mae pob un o’r cerfluniau’n wahanol ac yn darlunio persli, dant y llew a brwyn cyffredin ond yn y manylion y mae’r harddwch” meddai’r artist Mike Johnson.  “Ym mhob un cerflun, mae eitemau sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol a naturiol Saltney ac afon Dyfrdwy, o gocos i ganhwyllau, o rybedion i’r diwydiant adeiladu cychod ac eitemau’n ymwneud â’r rheilffordd.” Mae’r llwybr cerfluniau’n cyfeirio at Ferryman Saltney Ferry ac, wrth ystyried y llwybrau troed newydd, yr olygfan, y gwrych peillio, y rhodfa goed, y paneli dehongli a cherflun Saltney Sid, mae effaith yr holl waith o adfywio glan yr afon yn mynd ymhell y tu hwnt i’r prosiectau unigol. “Mae pob cerflun yn cynnwys llwybr hanes rhyngweithiol sy’n  gweithio drwy ddefnyddio’r codau QR ym mhob darn,” meddai’r Ceidwad Cefn Gwald,  Karen Rippin. “Mae pawb wedi gweithio’n galed iawn ac mae’n werth mynd i’w gweld.” Mae’r prosiect yn rhan o gynllun adfywio sylweddol ar hyd glan yr afon, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Saltney, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Adnoddau Cymru, Cadwyn Clwyd,  Asiantaeth Datblygu Cefn Gwlad Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Cyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n berchen ar y tir. Cadwyn Clwyd lwyddodd i sicrhau’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer y prosiect a hynny gan Gynllun Datblygu Cymru Wledig, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. “Rwy’n hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni drwy’r prosiect amlasiantaeth hwn. Mae’n enghraifft wych o’r gwaith o adfywio’r arfordir sy’n mynd rhagddo yn Sir y Fflint ac mae’n fuddsoddiad gwych yn ein cymuned,” meddai Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd. “Ein nod yn awr yw cysylltu’r rhan hon o’r glannau â Chaer, gan roi Saltney ar y map yn bendant fel Porth i Gymru.” Dywedodd Maer Cyngor Tref Saltney, y Cynghorydd Alan Evans, “Rydym wedi gweld ein cymuned yn cael ei gosod yn bendant ar fap Cymru eleni gyda chymorth ein partneriaid a hoffem ddiolch yn arbennig i Karen Rippin, Ceidwad Cefn Gwlad, am roi’r prosiect ar waith ac i Cadwyn Clwyd am ariannu 70% o’r prosiect. Mae Cyngor Tref Saltney yn rhoi ei gefnogaeth lawn i’r prosiect ac mae wedi cyfrannu £12,000 ato. Mae’n braf  gweld y cynllun yn dod i fwcwl” meddai Sarah Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Threftadaeth Cadwyn Clwyd, “ Rydym wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi’r prosiect adfywio ardderchog hwn ar ran mor hanesyddol o arfordir Cymru a Llwybr Arfordir Cymru.” Delweddau o’r cerfluniau: