Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref i agor or newydd

Published: 21/01/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn agor safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd yn Sandycroft ddydd Llun 26 Ionawr. Bydd y safle newydd ar Prince William Avenue yn cynnig cyfleusterau ailgylchu a gwaredu gwastraff llawn. Mae’r safle wedi’i lunio i’w gwneud yn haws i drigolion Sir y Fflint ailgylchu eu gwastraff. Nid oes unrhyw risiau i’w dringo a phwrpas y safle yw i drigolion ailgylchu a dargyfeirio cymaint ag sy’n bosibl o’u gwastraff o safleoedd tirlenwi. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: Mae hwn yn safle newydd gwych i bobl Sir y Fflint. Mae’n hawdd i’w ddefnyddio a byddwn yn annog preswylwyr i roi blaenoriaeth i ailgylchu wrth ddefnyddio’r cyfleuster. Rydym am i’r safle fod yn un o’r rhai uchaf eu perfformiad yng Nghymru, neu hyd yn oed y DU”. Bydd agor y safle newydd hwn yn arwain at gau safleoedd ailgylchu llai yn Queensferry a Saltney. Bwriedir agor y safle’n swyddogol yn ddiweddarach yn y mis.