Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Nadolig Dim Yfed a Dim Cyffuriau a Gyrru yn cadw defnyddwyr y ffyrdd yn ddiogel

Published: 28/01/2015

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r newyddion fod Ymgyrch Dim Yfed a Chyffuriau’r Nadolig a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru wedi cadw defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel. Arestiodd Heddlu Gogledd Cymru 76 o bobl yn ystod yr ymgyrch ddiweddar a barodd fis. Cynhaliwyd 15,627 o brofion anadl ac roedd 76 o’r rheiny’n bositif. Cafodd chwech o bobl eu harestio hefyd am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae yfed neu gymryd cyffuriau a gyrru yn dal i fod yn un o ffeithiau trist bywyd ac mae’n anffodus fod rhai pobl yn dal yn barod i beryglu eu bywydau a bywydau pobl eraill. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi pob mesur a ddefnyddir gan Heddlu Gogledd Cymru i atal unrhyw un rhag yfed neu gymryd cyffuriau a gyrru.” Os oes gennych wybodaeth am unrhyw un y credwch sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn anhysbys drwy Crimestoppers ar 0800 555 111. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.