Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dragons Den Cymru
Published: 01/05/2014
Mae Sir y Fflint yn cynnal ei ddigwyddiad ‘Dragons’ Den’ ei hun unwaith eto ac
yn gobeithio denu pobl ddawnus sydd â syniadau busnes newydd.
Mae’r digwyddiad a gynhelir am ddim yn cael ei anelu at unrhyw un sydd am fod
yn fos arno ef / arni hi ei hun, neu sydd am gael help i fod yn entrepreneur a
gwahoddir pobl o bob oedran i werthu eu syniad. Os bydd y ‘dreigiau’, sydd i
gyd yn berchnogion busnes lleol, yn meddwl fod gan y syniad botensial byddant
yn cynnig sesiynau mentora unigol iddynt o’u gwirfodd dros y chwe mis nesaf.
Y ‘Dreigiau’ a fydd yn cynnig eu cymorth eleni yw Askar Sheibani, Prif Swyddog
Gweithredol cwmni Comtek o Lannau Dyfrdwy, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr
Comtek, Leyla Edwards o gwmni KK Fine Foods, Paul Maddocks gynt o Parkway
Telecom, Adam Butler o Easy Online Recruitment a Mike Scott o The Group / Red
Lion Marchwiel.
Cynhelir y digwyddiad yng Ngholeg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy fel rhan o
Ddiwrnod Gwybodaeth Entrepreneuriaid ddydd Gwener 9 Mai o 10am tan 2pm lle bydd
cyngor a chymorth ar gael i bobl sydd am ddechrau busnes. Bydd cynrychiolwyr
darparwyr addysg lleol, Y Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru a
Chyngor Sir y Fflint hefyd wrth law i ddarparu gwybodaeth am swyddi a gyrfaoedd
ochr yn ochr â chyfleoedd gwirfoddoli a chyngor gyrfaol.
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd
yng Nghyngor Sir y Fflint: “Dim ond un o’r ffyrdd y mae Cymunedau’n Gyntaf yn
rhoi cymorth ac ymrwymiad, nid yn unig i bobl ifanc 16 i 24 oed y sir, ond i
unrhyw un sydd an ddechrau busnes yw’r digwyddiad hwn. Anogir perchnogion
busnes hefyd i ddod draw i Glwb Mentergarwch Sir y Fflint, lle mae arweiniad ar
gael.”
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Dragon’s
Den Cymru a Chlwb Mentergarwch Sir y Fflint yn chwarae rhan hanfodol yn y
gwaith o roi cyfleoedd i bobl ddechrau neu dyfu eu busnes neu fenter
gymdeithasol. Mae’n rhan o’r gwaith ardderchog sy’n digwydd drwy Rwydwaith
Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint sydd bellach yn sefydledig gan Gyngor Sir
y Fflint, ac sy’n helpu pobl leol i chwilio am swyddi addas yn y farchnad
lafur. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad i ddod draw i’r digwyddiad a
manteisio ar y cymorth sydd ar gael.”
Meddai Askar Sheibani, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth Busnes Llywodraeth Cymru a
Phrif Swyddog Gweithredol cwmni trwsio a chymorth telathrebu Comtek: “Mae ein
digwyddiadau Dragons’ Den yn eithriadol o llwyddianus ac yn troi syniadau yn
fusnesau proffidiol. Rydym yn falch o gyhoeddi rownd arall ac yn gwahodd
entrepreneuriaid newydd i gymryd rhan. Rydym eisoes wedi cael canlyniadau
gwych gan gyfranogwyr y gorffennol; cafodd un o’n entrepreneuriaid, sy’n
berchen ar ddau fusnes, ei enwi yn Entrepreneur y Flwyddyn yng ngwobrau busnes
Free2Network 2013, ac mae rhai o’r busnesau yr ydym wedi’u cefnogi wedi dechrau
allforio i wledydd eraill. Mae cael y gymuned yn gefn i’n busnesau lleol yn
hanfodol i’w llwyddiant a gwella’r economi leol, ac mae hyn yn dod yn fwyfwy
amlwg wrth i ddigwyddiadau Dragon’s Den Sir y Fflint a’r clwb mentergarwch gael
eu cyflwyno mewn trefi cyfagos.”
Am fwy o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â Chymunedau’n Gyntaf ar 01244
846090 neu e-bostiwch beverly.moseley@flintshire.gov.uk
Nodyn i Olygyddion
Trwy’r rhaglen Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Cyngor Sir y Fflint ceir
cymorth gan entrepreneuriaid busnes llwyddiannus Sir y Fflint; aelodaeth o’r
Clwb Menter Sir y Fflint; rhaglen hyfforddiant lawn a ariennir drwy’r rhaglen
Dechrau Busnes Cymru; cymorth ychwanegol gan Ddreigiau Sir y Fflint a
mentoriaid Dynamo a gweithgareddau ychwanegol ac integredig gan Gymunedau’n
Gyntaf a phartneriaid eraill.