Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant ysgol yn archwilio Bydoedd Coll – Rhaglen Artist Preswyl Ysgolion

Published: 04/02/2015

Bydd plant Ysgol Gynradd Ewloe Green, Ysgol y Pentref Penarlâg ac Ysgol Gynradd Penarlâg yn Ewlo yn gwisgo eu hetiau fforio ac yn ymchwilio Bydoedd Coll. Trwy nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint, bydd y disgyblion yn gweithio ochr yn ochr ag artist tecstilau proffesiynol, Cefyn Burgess, i greu gwaith celf yn seiliedig ar y thema Byd Coll’. Bydd Rhaglen Artist Preswyl Ysgolion yn dod i ben gydag arddangosfa yn Clwyd Theatr Cymru rhwng dydd Mawrth 10 Mawrth a dydd Mawrth 7 Ebrill, 2015 gyda gwaith celf gan Cefyn ar disgyblion. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag artist proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol, ac rydw in siwr y bydd pawb yn mwynhau’r profiad. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith syn cael ei greu drwyr prosiect hwn. Maer celfyddydau yn darparu mynediad i ddysgu mewn amgylchedd cyfoethog a chreadigol ac yn creu atgofion am byth.” Nodyn y golygydd Cysylltwch ag ysgolion unigol ar gyfer lluniau. Mae Cefyn Burgess yn artist preswyl yn yr ysgolion canlynol ar y dyddiadau canlynol: 10-13 Chwefror - Ysgol y Pentre Penarlâg 24-27 Chwefror – Ysgol Gynradd Ewloe Green (hefyd, 27-30 Ionawr - Ysgol Gynradd Penarlâg) Gwybodaeth am yr Artist: Ganwyd Cefyn Burgess ym Methesda ac mae o erbyn hyn yn ddylunydd ac yn wehydd ffabrig Cymreig traddodiadol syn enwog ar draws y byd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, cyn astudio cwrs celf sylfaen ym Mirmingham Polytechnig ac ennill gradd BA (Anrh) mewn Ffasiwn a Thecstilau ym Manceinion. Yn dilyn hyn, bu iddo gwblhau MA mewn tecstilau wediu gwehyddu yn y Coleg Celf Brenhinol. Mae ganddo weithdy yn Rhuthun.