Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Drafft 2015

Published: 29/01/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ymateb i Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2015. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 10 Rhagfyr 2014 a bydd yn dod i ben ar 11 Mawrth 2015. Hoffai’r Cyngor glywed barn ei drigolion am gynigion Llywodraeth Cymru, yn arbennig y rheiny sy’n effeithio ar Sir y Fflint. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Rydym yn awyddus i sicrhau fod cymaint ag sy’n bosibl o bobl Sir y Fflint yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Gallwch ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru neu i Gyngor Sir y Fflint. Gwelir manylion ynglyn â sut i ymateb ar wefan y Cyngor, neu drwy e-bostio sue.price@flintshire.gov.uk. Rhaid i unrhyw ymatebion i Gyngor Sir y Fflint gael eu derbyn erbyn dydd Gwener 6 Chwefror 2015 fan bellaf.”