Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 12/02/2015

Ydych chi’n entrepreneur gyda syniad busnes ond nad ydych yn gwybod sut i’w ddatblygu ir lefel nesaf? Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn cynnig cymorth a chyngor ynglyn â sefydlu eich busnes eich hun. Gyda gweithdai am ddim gan Brifysgol Glyndwr, mae’r amgylchedd llawn gwybodaeth a chyfeillgar yn creu cyfle rhwydweithio rhagorol. Cynhelir sesiynau grwp bob yn ail dydd Gwener yng Nghampws Cymunedol John Summers 10am tan 12 hanner dydd. Mae’r clwb menter yn gyfle gwych i unigolion gael cymorth i ddatblygu syniadau busnes newydd neu gefnogaeth ar gyfer busnesau newydd. Mae’r clwb yn annog pobl busnes i ddod at ei gilydd a rhwydweithio ac yn cynnig gweithdai am ddim i gynorthwyo i sefydlu a marchnata busnesau. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Byddwn yn annog unrhyw un syn dechrau ym myd busnes – neu sy’n ystyried sefydlu busnes – i ymuno â Chlwb Menter Sir y Fflint. Mae’n flaenoriaeth i’r Cyngor i gefnogi pobl mewn busnes a chyflogaeth ac mae Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint yn gweithio’n galed i ddiwallu’r nod hwnnw.” I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Beverly Moseley Cymunedau’n Gyntaf ar 01244 846090.