Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Campws Dysgu Treffynnon - gwaith yn dechrau

Published: 30/01/2015

Mae gwaith wedi dechrau ar Gampws Dysgu blaenllaw Treffynnon gwerth £30 miliwn. Dechreuodd y gwaith o baratoir safle ddydd Llun, 19 Ionawr. Bydd yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd newydd ar yr un safle, sef safle presennol yr Ysgol Uwchradd. Bydd un ysgol gynradd newydd yn cymryd lle Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron a bydd yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol gynradd yn rhannu safle â chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed. Disgwylir i’r ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau presennol yn parhau i gael eu defnyddio hyd nes yr adeg hynny i sicrhau nad oes unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr. Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr arfaethedig a lle i 315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn y llety diweddaraf or radd flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Mae manylion y cynigion, gan gynnwys taith rithwir 3D, ar gael ar wefan y Cyngor. Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: Rwyn hynod falch bod y gwaith o adeiladu’r campws dysgu newydd cyffrous hwn yn Nhreffynnon bellach ar waith. Bydd yn gyfleuster newydd rhagorol a modern ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach. Maer cynlluniau hyn yn rhan o fuddsoddiad a gynlluniwyd gan Sir y Fflint yn eu hysgolion o dan Raglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.” Gan siarad ar ran penaethiaid y tair ysgol, dywedodd Peter Davies o Ysgol Iau Ysgol y Fron: Mae plant a chymuned Treffynnon yn haeddu’r gorau, a dyna beth fydd ganddynt ar ôl i adeiladau’r ysgolion newydd gael eu cwblhau. Wrth i ni weithio i sicrhau’r addysg o safon gorau ar gyfer plant Treffynnon, rydym yn gwybod y bydd eu profiad dysgu’n cael ei wella’n enfawr gan y buddsoddiad yn yr hyn a fydd yn gyfleuster newydd ffantastig ar gyfer y gymuned. Nodyn i Olygyddion Disgwylir y bydd seremoni torri tir swyddogol yn digwydd ym mis Chwefror, gyda’r dyddiad iw gadarnhau’n fuan.