Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Codi Baneri y Gymanwlad: 9 Mawrth 2015

Published: 10/02/2015

Am y tro cyntaf mewn hanes morwrol, bydd un llong ar ddeg cwmni llongau P&O a Cunard yn codi baner y Gymanwlad mewn amryw o leoliadau wrth iddynt deithio o amgylch y byd am 10am ddydd Llun 9 Mawrth 2015. Yn Sir y Fflint, caiff y faner ei chodi yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Er mwyn adeiladu ar y digwyddiadau agoriadol hynod lwyddiannus a gynhaliwyd y llynedd, bydd dros 650 o faneri’r Gymanwlad yn cael eu codi mewn 38 o wledydd y Gymanwlad fel rhan o’r fenter unigryw. Mae wedi dal dychymyg miloedd o gyfranogwyr o bob cwr o’r byd, ac mae wedi galluogi pobl o bob oedran i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol ac ymuno ag eraill ledled y byd i fod yn gysylltiedig ag ymrwymiad cyhoeddus eang i’r Gymanwlad, i werthfawrogi ei gwerthoedd a’r cyfleoedd a gynigir i’w dinasyddion. Meddai Bruno Peek LVO OBE OPR, Meistr y Pasiant Fly a Flag for the Commonwealth: Rwy’n falch iawn fod cwmni llongau P&O a Cunard yn cymryd rhan fel hyn ac yn canmol eu blaengarwch ac rwy’n gobeithio y bydd y rheiny ar fwrdd y llong y bore hwnnw yn mwynhau’r profiad unigryw. Am y tro cyntaf, bydd Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol yn cymryd rhan yn y fenter ar 9 Mawrth 2015. Bydd Baneri’r Gymanwlad yn cael eu codi gan Gadetiaid Awyr ym mhob un o’r chwe Corfflu Hyfforddiant Awyr. Mae cysylltiadau agos rhwng Cadetiaid Awyr y DU a Chadetiaid yng ngwledydd eraill y Gymanwlad a bydd y Cadetiaid yn falch o ddathlu gwerthoedd y Gymanwlad ar 9 Mawrth 2015. Bydd Datganiad y Gymanwlad arbennig yn cael ei ddarllen ym mhob seremoni cyn codi Baner y Gymanwlad am 10am y bore hwnnw. Yn Sir y Fflint, arweinir y digwyddiad gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Glenys Diskin. Meddai: “Mae’n fraint cael codi Baner y Gymanwlad ar ran Cyngor Sir y Fflint ar Ddiwrnod y Gymanwlad. Rwy’n siwr y bydd y fenter hon, sy’n uno cymunedau o dan un digwyddiad, lle bydd baneri’n cael eu codi ar yr un pryd, yn codi ymwybyddiaeth o’r Gymanwlad a’r hyn y mae’n ei gynrychioli i bawb, boed drwy sefydliadau lleol, cenedlaethol neu fudiadau elusennol. Bydd timau elusennol ‘Fields of Life’, sef elusen o ogledd Iwerddon ac Uganda, yn nodi’r diwrnod drwy fynd â Baneri’r Gymanwlad i bedwar copa uchaf y DU ac yn defnyddio’r achlysur i godi arian gwerthfawr i’w achos da: Scafell Pike, Lloegr - Yr Wyddfa, Cymru - Ben Nevis, Yr Alban a Slieve Donard, Gogledd Iwerddon. Bydd yr elusen hefyd yn codi’r faner mewn ysgolion ledled Ugandar diwrnod hwnnw. Codir Baneri’r Gymanwlad mewn sawl lleoliad pwysig y bore hwnnw, gan gynnwys chwe seremoni ar ynys George Cross ym Malta; Dinas Wellington yn Seland Newydd, Belize, Jamaica, Mawrisiws, Sri Lanka; Lowestoft, Suffolk, y dref fwyaf dwyreiniol yn Lloegr; Unst ar Ynysoedd Shetland, yr Ynys breswyliedig fwyaf deheuol yn yr Alban; Gorsaf Ymchwil Rothera ar benrhyn Antartica; a Tristan Da Cunha, yr ynys breswyliedig fwyaf anghysbell yn y byd - i enwi dim ond rhai. Codir baneri hefyd yng ngwesty’r Rye Lodge, sef gwesty mwyaf Dwyrain Sussex, a gwesty’r Cliff yn Gorleston-on-Sea, Great Yarmouth, yn ogystal â gwledydd eraill y Gymanwlad sy’n cynnwys cyn-filwyr y Gymanwlad, ynghyd â Sgowtiaid a Geidiau. Bydd yn dod â phobl o bob oedran at ei gilydd i ddathlu’r teulu mawr hwn o genhedloedd gyda’i gilydd. Yn Tonga lle mae amser yn dechrau, mae Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga (GGAKT) yn arbennig o falch o gael bod y wlad gyntaf yn y byd i godi baner y Gymanwlad am 10.00 fore Llun 9 Mawrth 2015, gan arwain ieuenctid y Gymanwlad yn y digwyddiad unigryw, hanesyddol a byd-eang hwn y bore hwnnw, rydym hefyd yn hapus iawn ac yn edrych ymlaen at y diwrnod, ac yn benderfynol gydag ieuenctid Tonga o fwynhau ein cysylltiad i gefnogi Siarter y Gymanwlad, yr ydym yn ddyledus iawn iddi”, meddai Halaevalu Mangisi Palu, Prif Gomisiynydd (GGAKT). Meddai Ei Ardderchowgrwydd Kamalesh Sharma, Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad: Mae menter ‘Fly a Flag for the Commonwealth’ yn ffordd greadigol i bobl mewn cymunedau lleol - ble bynnag y maent yn byw, dysgu neu weithio, i ymuno ag eraill ym mhob rhan o’r Gymanwlad mewn ymdeimlad o barch a dealltwriaeth i ddathlu amrywiaeth digyffelyb ein teulu byd-eang. Rwy’n ei groesawu a’i ganmol. Gall ein holl ddinasyddion, yn arbennig y rhai ifanc, fynegi eu gwerthfawrogiad o’r Gymanwlad a’r gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli, fel y’u nodir yn Siarter y Gymanwlad, a’r cyfleoedd cyfoethog y mae’n eu cynnig ar gyfer cymorth ar y cyd tuag at gynnydd economaidd cymdeithas gynhwysol a thecach.” DIWEDD NODYN I OLYGYDDION: Gwybodaeth bellach a rhestr lawn o’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y fenter Fly a Flag for the Commonwealth: Bruno Peek LVO OBE OPR Meistr Pasiant Ffôn: 07737 262 913 E-bost: pageantmaster@mac.com Cymdeithas Geidiau Teyrnas Tonga: Halaevalu Mangisi Palu - Prif Gomisiynydd E-bost: hmvpalu@yahoo.com Fields of Life: Helen Darcy Ffôn: 02838 390 395 E-bost: helen.darcy@fieldsoflife.org Ysgrifennyddiaeth y Gymanwlad David Banks - Ymgynghorydd Materion Cyhoeddus Prif Ysgrifennydd y Gymanwlad Ffôn: 0207 747 6130 E-bost: d.banks@commonwealth.int Cwmni Llongau P&O a Cunard: Michele Andjel Ffôn: 02380 656 653 E-bost: michele.andjel@carnivalukgroup.com