Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pleidlais Undebau yn derbyn Statws Sengl
Published: 11/04/2014
Yn dilyn pleidlais ymysg eu haelodau cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ac Undebau
Llafur Sir y Fflint (GMB, UCATT, Unsain ac Unite) ar y cyd fod Cytundeb Statws
Sengl wedi cael ei dderbyn gyda mwyafrif mawr.
Bydd y Cytundeb, a gymeradwywyd gan y Cyngor fis Hydref diwethaf yn awr yn cael
ei weithredu ar 1 Mehefin 2014.
Mae hwn yn gam mawr ymlaen ir Cyngor ac yn benllanw pedair blynedd o waith
cymhleth gan bawb er mwyn dod i gytundeb.
O dan gytundeb cenedlaethol, ac er mwyn osgoi ymgyfreitha ar costau posibl o
hawliadau Cyflog Cyfartal, rhaid i bob Cyngor fabwysiadu Cytundeb Statws Sengl.
O dan Gytundebau or fath caiff strwythurau cyflog modern eu cyflwyno syn
sicrhau tegwch o ran cyflog a thelerau ac amodau cyflogaeth i bob gweithiwr.
Caiff y rhan fwyaf o weithlu Sir y Fflint, ar wahân i athrawon, eu heffeithio
gan y strwythur cyflog newydd. Bydd rhai gweithwyr yn derbyn codiad yn eu
cyflog sylfaenol, bydd eraill yn gweld gostyngiad, a bydd llawer na chânt eu
heffeithio o gwbl. Bydd telerau ac amodau newydd yn cwmpasu hawliau megis
taliadau premiwm ar gyfer gweithio goramser a lwfansau car ar gyfer y gweithlu
cyfan ar wahân i athrawon. Bydd y Cytundeb newydd yn galluogi llawer o
wasanaethau rheng flaen i gael eu darparu mewn ffordd fwy hyblyg, gan gynnwys
ar benwythnosau, er mwyn gallu ateb y galw gan gwsmeriaid yn well.
Mae dwy nodwedd arwyddocaol ir Cytundeb y maer Cyngor, fel y cyflogwr, yn
falch iawn ohonynt. Yn gyntaf, mae’n ateb i fater cyflogau isel syn effeithio
ar nifer fawr o weithwyr benywaidd yn bennaf mewn gwasanaethau megis arlwyo,
glanhau a gofal cymdeithasol. Yn ail, mae’n cynnig gwell bargen ar ddiogelu
tâl i’r rhai fydd yn colli cyflog ac a allent wynebu caledi personol o’r
herwydd.
Maer Cyngor wedi meddwl ymlaen trwy adeiladu cronfa ariannol wrth gefn ar
gyfer Statws Sengl a fydd yn cael ei gosod yn erbyn y cynnydd yn y bil cyflog
ac sy’n cynnwys yr holl gostau unwaith ac am byth megis amddiffyn cyflog. Mae
pob cytundeb Statws Sengl yn arwain at gynnydd mewn cyflog sylfaenol ym mhob
Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Rheoli
Corfforaethol: “Bydd cyflwyno Cytundeb newydd yn gam cadarnhaol wrth fynd ir
afael â mater cyflogau isel i gyfran sylweddol or gweithlu. Trwy
foderneiddior telerau ac amodau cyflogaeth rydym yn gallu cyflwyno
gwasanaethau mwy hyblyg fel casglu gwastraff ar benwythnos a gwasanaethau i
gwsmeriaid heb unrhyw gost ychwanegol i drethdalwyr lleol.”
Dywedodd Colin Everett, Y Prif Weithredwr: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen ir
Cyngor ac yn benllanw pedair blynedd o waith cymhleth i ddatblygu cytundeb mwy
derbyniol nar un a wrthodwyd yn 2009 pan oedd pryder ynghylch maint y
colledion i rai grwpiau gwaith a gweithwyr. Mae Sir y Fflint yn sefyll allan
fel Cyngor lle gall y cyflogwr ar Undebau Llafur weithio gydai gilydd, gan
barchu ei gilydd, er mwyn cyflawni cytundebau anodd fel hyn.”
Dywedodd Sarah Taylor, Ysgrifennydd Unsain a Phwyllgor ar y Cyd Undebau Llafur
Sir y Fflint: “Mae hwn wedi bod yn brosiect hynod gymhleth sydd wedi gofyn am
ymrwymiad gan bob ochr i gadw at yr egwyddorion arweiniol a gytunwyd ar y
cychwyn. Rydym yn credu bod y Cytundeb yn ymdrin â mater cydraddoldeb cyflog a
thelerau ac amodau ar draws y gweithlu cyfan ac yn gwneud cynnydd o ran mynd
ir afael â chyflogau isel ac y bydd y buddsoddiad yn y llinell gyflog yn
galluogir sefydliad i recriwtio a chadw staff yn y dyfodol, gan adeiladu
gwytnwch yn y sefydliad.”