Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwmni newydd NEW Housing

Published: 01/05/2014

Cyngor Sir y Fflint yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun. Y bwriad yw ymateb ir heriau syn wynebu preswylwyr syn ceisio cael gafael ar dai fforddiadwy. Mae NEW Homes (Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru) wedi’i sefydlu gan y Cyngor i gynyddu opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Bydd yn cynnig nifer o wasanethau rheoli tai wedi’u teilwra a’u llunio i gynyddu maint a gwella ansawdd tai fforddiadwy ledled y sir. Yn ogystal â rhentu ei eiddo ei hun, bydd gan NEW Homes hefyd nifer o gynigion i landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaeth ‘tenant parod’. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth rheoli gosod tai ac eiddo llawn ac yn darparu cynnig unigryw hefyd i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu tai i’r cwmni a chael mynediad at letyau addas gan y cyngor. Cyngor Sir y Fflint sy’n berchen ar NEW Homes ac mae wedi’i sefydlu fel cwmni a gyfyngir gan gyfranddaliadau gyda phwerau di-gyfyngiad. Y Cyngor yw’r unig randdeiliad ac mae’r bwrdd yn cynnwys wyth cyfarwyddwr ac mae pump o’r rheiny yn gynghorwyr, un yn swyddog y cyngor a dau yn gyfarwyddwyr annibynnol sydd â phrofiad yn y maes tai. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: Rwy’n hynod falch fod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio’n rhagweithiol i ddiwallu anghenion tai ein preswylwyr drwy sefydlu NEW Homes a fydd yn gwella opsiynau tai sydd ar gael i’n preswylwyr yn fawr iawn. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Rydym am ddarparu opsiwn tai fforddiadwy newydd i bobl leol, sydd naill ai’n methu â fforddio talu rhenti uchel landlordiaid preifat, a neu, nad ydynt yn gymwys i gael ty Cyngor. Mae gormod o bobl leol, yn aml pobl ifanc, yn canfod fod tai rhentu preifat yn anfforddiadwy ac allan o’u cyrraedd, ac rwy’n falch iawn mai Cyngor Sir y Fflint yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i gymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â’r broblem.” I ganfod mwy am y cwmni a’r gwasanaethau a gynigir, edrychwch ar wefan NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk neuffoniwch NEWHomes ar 01352 701400.