Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn cefnogi busnesau lleol drwy gynllun grantiau

Published: 05/02/2015

Bydd rhai o fusnesau bach y sir yn elwa o gefnogaeth ariannol gan y Cyngor, trwy gynllun grantiau anghenion lleol trethi busnes. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredur cynllun grantiau, syn ceisio cefnogi busnesau lleol sydd angen cymorth ariannol. Bydd yr arian yn galluogir Cyngor i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau bach syn derbyn gostyngiad rhannol ar drethi busnes i fusnesau bach sydd â throthwy gwerth ardrethol o rwng £6,001 a £7,500. Gall dros 200 o fusnesau syn bodlonir meini prawf hyn bellach elwa or grant ychwanegol. O ganlyniad ir gwobrau hyn, bydd llawer o fusnesau bach, yn enwedig y rhai syn gweithredu ar ein prif strydoedd lleol a chanol trefi, yn derbyn grant sydd i bob pwrpas yn eu heithrio o unrhyw atebolrwydd trethi busnes yn 2014-15. Bydd llythyrau’n cael eu hanfon yn fuan i fusnesau i gadarnhau’r dyfarniadau ychwanegol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ar Aelod Cabinet Cyllid: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu darparu cymorth ychwanegol i lawer on busnesau lleol. Mae hyn yn rhan on hymrwymiad i gynnal cyflogaeth a busnesau lleol, ac yn dangos ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogir economi leol a dangos bod Sir y Fflint yn sicr ar agor ar gyfer busnes.”