Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith celf ar arfordir Sir y Fflint yn troin Llwybr Cerfluniau

Published: 10/02/2015

Mae morlin Sir y Fflint gam yn agosach at gael llwybr cerfluniau gyda’r ychwanegiad artistig diweddaraf ar Dock Road, Cei Connah. Mae Ceidwaid Arfordirol Sir y Fflint a busnes lleol, GJ Maintenance Engineering Limited, wedi dod at ei gilydd i gomisiynu, dylunio, adeiladu a gosod yr ychwanegiad diweddaraf a wnaethpwyd yn Sir y Fflint ar gyfer yr atyniad arfordirol hwn sy’n tyfu’n gyflym iawn. Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton , Arweinydd y Cyngor, ac aelod o’r ward lleol: Mae hwn yn mynd i fod yn ychwanegiad hyfryd i’n llwybr cerfluniau. Mae’n seiliedig ar long hanesyddol Kathleen and May, a adeiladwyd ar Dock Road, Cei Connah, ac a ymddangosodd yn y rhaglen deledu Onedin Line. Mae’r model wedi’i adeiladu i raddfa allan o ddur gwrthstaen gan brentisiaid cwmni GJ Maintenance Engineering a bydd yn eistedd yn falch ar y blaendraeth wrth Lwybr Arfordir Cymru.” Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd ac aelod o’r ward lleol: Rwy’n gyffrous iawn fod y cerflun hwn yn cael ei osod ar Dock Road. Mae’r gwaith sydd wedi mynd iddo yn dangos safon a chalibr peirianwyr Sir y Fflint a Chymru. Ynghyd â Draig Bagillt, mae’n eistedd yn falch fel atyniad ymwelwyr allweddol i’r Parc Arfordirol newydd yn Sir y Fflint.” Meddai Gary Jackson, perchennog GJ Maintenance Engineering Limited: Rydym yn hynod falch o allu cynhyrchur darn hwn ar gyfer cymuned yr arfordir, Sir y Fflint a Chymru. Mae hwn yn ddarn o safon a adeiladwyd gan brentisiaid yn eu hamer sbâr rhwng gwaith arall. Rhoddir cydnabyddiaeth i Gareth Phillips, un o’n pump prentis, am ei waith, Gobeithiwn y caiff ei werthfawrogi am flynyddoedd i ddod yn y lleoliad hanesyddol pwysig hwn. “Fel yr aber, mae cerflun Kathleen and May wedi’i lunio i ymddangos yn wahanol ar adegau gwahanol o’r dydd yn dibynnu ar y golau a’r llanw,” meddai Gareth. Mae’r gwaith celf yn cael ei osod gan gwmni Marland Marine a Chymdeithas Cychwyr y Cei. Mae Clwb Sgïo Dwr Glannau Dyfrdwy wedi agor ei safle ar gyfer y lansiad. Ychwanegodd Mike Taylor, Uwch Geidwad Arfordirol: “Mae’n ddarn hyfryd o waith sy’n cynnwys manylion cywrain megis rhaffau, hwylbrennau ac estyllod rigin. Mae wedi’i osod ar bwynt allweddol ar Lwybr Arfordir Cymru – Dock Road lle bydd dros 13,000 o bobl yn mynd heibio bob mis. Mae cerfluniau eraill ar hyd arfordir Sir y Fflint yn cynnwys Llwybr Hanesyddol Rhyngweithiol Saltney gan Mike Johnson; Draig Bagillt gan y Carlyles; Sid Saltney, Y Pysgotwr Eog, Cragen Gocos Maes Glas, Bachgen Maes Glas a Bob Llys Bedydd gan Mike Owen; y Goleudy ar hyd Talacre Coast Road a cherflun y porth yn Nhraeth Talacre. Nodyn i Olygyddion Fe’ch gwahoddir i dynnu lluniau o’r cerflun am 10am ddydd Mercher 11 Chwefror y tu allan i Glwb Sgïo Dwr Glannau Dyfrdwy yn Nociau Cei Connah.