Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant Sir y Fflint

Published: 12/02/2015

Ydi’r farchnad swyddi’n achosi dryswch i chi neu oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghei Connah i dderbyn gwybodaeth i’ch helpu chi gael gwaith. Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dwyn cyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaethau a phobl sy’n chwilio am waith ynghyd yn y Neuadd Ddinesig yng Nghei Connah ddydd Iau 16 Ebrill 2015 rhwng 10am a 3pm. Bydd busnesau sydd â swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol ar y diwrnod i drafod eu cyfleoedd. Bydd cyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i waith gan gynnwys gweithdai ar dechnegau mewn cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais. Bydd partneriaid addysg bellach ac uwch hefyd wrth law i drafod hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned. Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint ar gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain. Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hyn a bydd mentoriaid y rhaglen LIFT yn darparu cymorth un i un ar gyfer pobl sy’n byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis neu fwy ac sy’n byw mewn aelwydi di-waith. Bydd ymgynghorydd rhieni Cymunedau yn Gyntaf hefyd yno i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01352 703024 / 01244 846090. GALW POB CYFLOGWYR LLEOL A oes gennych chi swydd wag iw llenwi? Hoffech chi i’r Ganolfan Byd Gwaith hysbysebu’r swyddi gwag yma ar eich rhan yn y digwyddiad? Os felly, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 01244 583728.