Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas i Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Published: 12/02/2015

Mae disgwyl i’r Cabinet gymeradwyo cais am arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ailddatblygu Amgueddfa a Threftadaeth Dyffryn Maes Glas ddydd Mawrth (17 Chwefror). Nod prosiect Datgelu Dyffryn Maes Glas yw rhoi’r ardal yn bendant ar y map o ran ei phwysigrwydd hanesyddol. Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu ailwampio a thrwsio adeiladau hanesyddol ac ymestyn ac ailfodelu’r dderbynfa. Caiff arweinydd gweithgareddau ei ddefnyddio i redeg rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, a chaiff y cyfryngau digidol eu defnyddio fel rhan o gynlluniau i greu dulliau gwell o ddehongli adeiladau a chasgliadau. Bydd mannau clywedol ar gael i glywed atgofion a gasglwyd yn sgil prosiect hanes. Bwriedir hefyd fynd ati i wella’r llwybrau a’r mynedfeydd. Cyngor Sir y Fflint yw perchennog Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a chaiff ei reoli gan Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gael hyd i ddulliau cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau lleol ac asedau cyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Yn 2013, cafodd y prosiect gymeradwyaeth Cylch 1 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’n awr yn barod i’w gyflwyno ar gyfer dyraniadau Cylch 2, gan obeithio cael dros £940,000 o gyllid. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae Datgelu Dyffryn Maes Glas yn gynnig gwych a chanddo amcanion uchelgeisiol. Wrth wraidd y prosiect y mae cyfraniad Maes Glas at y chwyldro diwydiannol, sydd wedi creu’r byd yr ydym yn ei adnabod heddiw.” Yn ôl y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg, sy’n gyfrifol am lyfrgelloedd, diwylliant ac amgueddfeydd: “Mae hwn yn gynnig cyffrous iawn. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn datgelu hanes cudd yr ardal a’r rhai a fu’n byw ac yn gweithio yma. Rydyn yn rhagweld y bydd hyn yn deny gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.” Delweddau