Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes)

Published: 12/02/2015

Mae Lesley Griffiths AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn ymweld â Phenyffordd dydd Iau yma (12 Chwefror) i gael gwybod mwy am NEW Homes, cwmni tai fforddiadwy a sefydlwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd swyddogion a chynghorwyr yn tynnu sylw at sut y maer cwmni wedi helpur Cyngor i oresgyn rhwystrau i ddarparu opsiynau tai mwy fforddiadwy i drigolion lleol. Fel rhan oi hymweliad, bydd y Gweinidog yn ymweld ag un or adeiladau newydd sy’n eiddo ir cwmni ac a reolir ganddynt, a bydd hefyd yn cwrdd ag un or tenantiaid newydd. Enillodd Sir y Fflint Wobr Tai Cymru fawreddog am fod yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun. Yn ogystal â rhentu ei eiddo ei hun, mae NEW Homes yn cynnal ystod o gynigion i landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaeth barod i denantiaid. Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth llawn i osod a rheoli eiddo, yn ogystal â’r cynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a chael mynediad at lety addas gan y cyngor. Dywedodd Lesley Griffiths AC: “Maen dda gweld cynllun mor arloesol fel NEW Homes ar waith. Maen gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol drwy ddarparu nifer o wahanol ffyrdd o gynorthwyor rheini sydd angen tai. Rwyn falch o weld cynlluniau fel yr un yma, nid yn unig yn gwella safonau a chyflenwad tai, ond hefyd yr effaith ehangach y gallant ei chael ar gymunedau lleol.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd NEW Homes: “Rwyf wrth fy modd yn cael croesawur Gweinidog ac yn falch ei bod yn gallu gweld drosti ei hun pa mor llwyddiannus y mae NEW Homes wedi bod. Sefydlwyd NEW Homes i ddarparu dewis arall newydd, fforddiadwy o ran tai i bobl leol, nad ydynt yn gallu fforddio cost rhent uchel gan landlordiaid preifat, a / neu nad ydynt yn gymwys i gael ty Cyngor.” Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Rydym yn falch iawn o NEW Homes, sydd yn ateb arloesol ir problemau a wynebir gan lawer o bobl sydd yn methu fforddio costau rhent y farchnad ond nad ydynt yn gymwys i gael tai cyngor. Rydym yn falch bod y syniad yn cael cydnabyddiaeth sylweddol ar lefel genedlaethol, o ran ein gwobr a’r ffaith bod y Gweinidog yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y cynllun.” I gael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar gwasanaethau a gynigir, ewch i wefan NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffoniwch NEW Homes ar 01352 701400.