Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Campws Queensferry - Oedi ac Adolygu

Published: 16/02/2015

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Campws Queensferry yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth (17 Chwefror). Ym mis Hydref 2014, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn oedi ac yn adolygu cynnydd ar Brosiect Campws Queensferry, adeilad ysgol newydd a oedd i gymryd lle Ysgol Uwchradd John Summers ac adnewyddur Ysgol Gynradd Queensferry cyfagos. Roedd y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad polisi i ddatblygu achos busnes ar gyfer ysgol i blant 3-16 oed a champws newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd John Summers. Cafodd yr oedi ac adolygu ei gynnal yn dilyn pryder am wydnwch y data sydd ei angen i gefnogir achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ariannu o dan ei Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Cynhaliwyd yr adolygiad o ganlyniad i wybodaeth ddiweddaraf a gostyngiad yn yr union nifer o ddisgyblion ac a ragwelir yn yr ardal. Nawr bod yr adolygiad wedii gwblhau, yr argymhelliad ir Cabinet yw peidio bwrw ymlaen ag ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Uwchradd John Summers ac i ddechrau cyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y ffordd orau i sicrhau addysg wydn, gynaliadwy, o ansawdd uchel yn yr ardal. Meddai Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid: “Rydym yn deall y lefel o siom yn y gymuned. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl i gefnogi dysgwyr. Er mwyn i raglen adeilad ysgol newydd fynd yn ei blaen, ac i sicrhau cyllid cyfalaf, mae’n rhaid i achos busnes gwrdd â nifer o brofion. Roedd yn rhaid i ni fod yn hyderus y byddai yna ddigon o ddisgyblion dros y blynyddoedd nesaf ac yn y dyfodol yn yr ysgol, ac nid dyma’r achos. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn seiliedig ar 600 o leoedd mewn ysgol uwchradd, ond nid oes digon o niferoedd cyfredol ac arfaethedig o ddisgyblion i gefnogi hyn. Er bod cadarnhad yr wythnos ddiwethaf o’r ffordd gyswllt sydd wedii chynllunio trwy safle datblygu’r Porth Gogleddol, nid ywn newid y lefel datblygu tai y gellir ei wneud yno neur angen a aseswyd am leoedd mewn ysgolion lleol - ac ni fydd y datblygiad yn cael ei gwblhau am rai blynyddoedd. Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ostyngiad a ragwelir mewn cyfraddau geni. “Maer corff llywodraethu wedi mynegi barn eu bod yn dymuno osgoi cyfnod hir o ansicrwydd ir ysgol ar gymuned leol. Y cam nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ddydd Mawrth, fydd dechrau ymgynghoriad ffurfiol i edrych ar hyfywedd yr ysgol bresennol yn y dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn destun gweithdrefnau ymgynghori statudol llawn. “Maer penderfyniad hwn hefyd yn golygu bod y penderfyniad cynharach i gynnwys darpariaeth Dosbarth Meithrin yn Ysgol Gynradd Queensferry fel ysgol i blant 3 i 11 oed yn aros fel y mae.