Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trip Catalyst
Published: 30/05/2014
Cafodd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd John Summers y cyfle i ymweld â chanolfan
wyddoniaeth ryngweithiol fel rhan o ymgyrch i annog disgyblion i ymgymryd â
gyrfaoedd sydd wedi’u seilio ar wyddoniaeth yn yr ardal leol.
Fe wnaeth BASF, sydd â’i leoliad ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, noddi’r
trip i 49 o ddisgyblion o flwyddyn 9 ymweld â Catalyst yn Widnes, ble bu iddynt
gymryd rhan mewn arbrofion gwyddoniaeth hunangymhellol a gorffen trwy fwynhau
sioe gemeg ryngweithiol ‘Flash Bang’.
Dechreuodd cysylltiad y cwmni â’r ysgol ar ôl mynychu digwyddiad rhwydweithio a
drefnwyd gan Teresa Allen, Swyddog Arweiniol ar gyfer Dysgu, Cymunedau yn
Gyntaf Dwyrain Sir y Fflint, a gynhaliwyd yn yr ysgol uwchradd ym mis Tachwedd.
Cydnabuwyd yn genedlaethol fod busnesau sydd wedi’u seilio ar STEM
(Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn dioddef yn sylweddol gan
brinder merched yn dod i mewn i’r diwydiant ac mae gan BASF ddiddordeb mewn
helpu i gau’r bwlch trwy ddangos sut y mae gwyddoniaeth yn rhan o fywyd pob
dydd.
Mae’r cwmni cemegol wedi rhoddi 30 o werslyfrau gwyddoniaeth i’r ysgol yn barod
a gallai mentrau yn y dyfodol gynnwys mwy o noddi tripiau, teithiau o amgylch
ffatrïoedd, lleoliadau gwaith a hyfforddiant sgiliau bywyd.
Meddai Julie Bellis, Rheolwr Dysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac athrawes
gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd John Summers:
“Mae hwn yn gyfle ardderchog, fe wnaeth y disgyblion wir fwynhau’r profiad a
byddem yn hoffi dweud diolch wrth BASF am weithio gyda ni yn awr ac ar
brosiectau yn y dyfodol gobeithio.”
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae’n wych gweld busnes rhyngwladol yn cymryd diddordeb yn nyfodol pobl ifanc
lleol. Diolch i BASF, mae’r plant yn gweld ochr wahanol i wyddoniaeth ac fe
allent ddewis hyn yn yrfa.”
Gall unrhyw gwmni yn ardal Glannau Dyfrdwy sydd â ffocws penodol ar y
diwydiannau STEM ac a hoffai gymryd rhan yn y fenter hon gysylltu â Teresa
Allen ar 01244 846090.
Capsiwn y llun: John Pearce ac Anna Roberts o BASF yn y llun gyda’r disgyblion
y tu allan i Catalyst.