Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn ceisio barn preswylwyr ynglyn â’r Polisi Gwasanaeth Cwsmeriaid newydd

Published: 02/03/2015

Gofynnir am farn trigolion Sir y Fflint ynglyn â pholisi Gwasanaeth Cwsmeriaid newydd y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau bod rhagoriaeth wrth gynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhan annatod o gynllunio, darparu adnoddau a chyflawni pob un o’i wasanaethau. Mae’r polisi newydd sydd wedii ddiweddaru yn adlewyrchur newid sy’n digwydd yn y ffordd y mae gwasanaethaur Cyngor yn cael eu darparu. Cynlluniwyd y polisi o amgylch yr egwyddor sylfaenol fod y Cyngor yma pan fydd arnoch angen siarad â ni a bod modd cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn ddigidol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar adeg syn gyfleus i chi. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Pan fo cwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, ein nod yw eu bod yn derbyn safon ragorol o wasanaeth i gwsmeriaid yn gyson. Rydym yn gofyn am eich barn, a fydd o gymorth i ni wella ein polisi newydd i gyflawni ein hymrwymiad i gael rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Gallwch gysylltu â ni drwy wefan y Cyngor, lle bydd dolen ar y dudalen flaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw dydd Gwener 13 Mawrth 2015.”