Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwmni recriwtio yn agor swyddfa yn Queensferry gyda chymorth Cynllun Gwella Strydoedd Glannau Dyfrdwy

Published: 24/02/2015

Mae cwmni hyfforddi a recriwtio wedi agor swyddfa yn Queensferry, gyda chymorth grant gan Gyngor Sir y Fflint. Maer Cyngor wedi darparu cymorth grant i gwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr i wneud gwaith adeiladu, fel rhan o gynllun grant i wella strydoedd yng Nglannau Dyfrdwy. Caiff y cynllun ei ariannu gan raglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru syn dyrannu arian adfywio mewn siroedd ledled Cymru. Maer cynllun yn darparu grantiau i berchnogion eiddo a thenantiaid i adnewyddu blaenau siopau a ffryntiadau adeiladau masnachol mewn cam pwysig tuag at wella’r profiad o siopa a masnachu yn lleol yng nghanol trefi Glannau Dyfrdwy. Maer cymorth grant a gafodd cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr wediu galluogi i gynnal nifer o welliannau, gan gynnwys gosod ffenestri newydd er mwyn gwella ffryntiad y stryd, arwyddion newydd, diweddaru a gwella landerydd, paentio’r adeilad ac atgyweirior gwaith brics. Mae grantiau i wella golwg allanol siopau ac eiddo masnachol yng nghanol trefi Cei Connah, Garden City, Shotton a Queensferry yn parhau i fod ar gael trwyr Cyngor Sir. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Hoffwn longyfarch cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr a dymuno pob llwyddiant iddynt ar eu menter, syn adfer hen adeilad banc y NatWest at ddefnydd cynhyrchiol fel swyddfa hyfforddi a recriwtio. Maer rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid yn cydnabod y rôl bwysig y mae canol trefi ac ardaloedd siopa yn eu chwarae ym mywyd Sir y Fflint. Gall stryd ddeniadol sydd wedii chynllunio ai rheolin dda wella llewyrch a dichonoldeb canol trefi Glannau Dyfrdwy ac annog pobl eraill i fuddsoddi. Byddem yn croesawur cyfle i gefnogi datblygiad busnesau eraill yn yr ardal.” Dywedodd, Vicki Roskams, perchennog cwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr : “Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn agor ein swyddfa newydd yn Queensferry, yn falch o’r ffaith ein bod yn creu swyddi ac yn falch o’r cyfle sydd i fuddsoddi mewn ardal arbennig.” “Cafodd ein sefydliad ei sefydlu gydar unig nod o helpu pobl yn yr ardal leol i feithrin hyfforddiant a hyder iw galluogi i gyrraedd eu llawn botensial mewn rolau a swyddi sydd yn cynnig atebion tymor hir ac nid pethau tymor byr i lenwi bwlch.” “Cafodd y fenter ei chyflawni’n rhannol gyda chymorth oddi wrth y Cyngor. Maer fenter Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid yn cyflwyno posibiliadau gwych a byddwn yn annog pobl eraill i ddysgu mwy am y rhaglen, er mwyn helpu i godi ysbryd ac edrychiad y stryd ar ardal leol, sydd hefyd yn helpu pobl i deimlon dda ynglyn â ble maent yn byw. Cefais gefnogaeth dda gan Gyngor Sir y Fflint drwyr broses a byddwn yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y cymorth sy’n cael ei ddarparu.” Mae uchafswm grant o hyd at £15,000 yr eiddo ar gael, ac mae modd cael arian grant am o hyd at 50% o gyfanswm cost y gwelliannau. Gellir cael rhagor o wybodaeth a chanllawiau manwl drwy gysylltu â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 703223. Gellir gweld manylion ynglyn â chwmni recriwtio a hyfforddiant Enbarr ar www.enbarrenterprises.com