Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr, Bagillt

Published: 25/02/2015

Mae cynigion ar gyfer Croesfan Sebra ar y Stryd Fawr ym Magillt bellach yn cael eu hystyried fel rhan or cynllun diogelwch sy’n cael ei adeiladu yno ar hyn o bryd. Cytunwyd ar y cynllun yn dilyn cyfnod helaeth o ymgynghori, gan gynnwys digwyddiad ymgynghori anffurfiol lle’r oedd nifer dda yn bresennol yn y neuadd bentref lleol. Gwnaed rhai newidiadau mewn ymateb i sylwadau trigolion lleol, gyda gostyngiad yn y nifer o glustogau arafu, ac mae rhwystr gosod wedi’i roi ar ran orllewinol y ffordd i leddfu pryderon a godwyd yn y digwyddiad ymgynghori. Yna roedd y cynllun diwygiedig yn destun cyfnod hysbysebu statudol ffurfiol pellach gyda rhybuddion ar y safle, yn y wasg, ac roedd cynlluniau hefyd ar gael yn lleol iw harchwilio. Derbyniwyd dau wrthwynebiad mewn ymateb ir hysbysebion, ac aeth y cynllun yn ei flaen i’r cam contract. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Maer Cyngor yn ymwybodol or aflonyddwch y mae’r cynllun tawelu traffig hwn wedi’i achosi. Hoffem ddiolch i drigolion lleol, busnesau ar cyhoedd syn teithio am eu hamynedd wrth i ni gwblhaur gwaith hwn, syn cael ei ariannu gan gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. “Mae gostyngiad mewn mesurau ffisegol wedi arwain at arbedion o ran cost. Mae hyn bellach wedi galluogi i Groesfan Sebra arfaethedig yng nghyffiniau Neuadd y Coedwigwyr gael ei hailystyried - yn amodol ar fodloni gofynion cyfreithiol statudol. “Bydd cwblhaur gwaith hwn yn cyflawni gwelliannau diogelwch y mae mawr eu hangen ir gymuned leol gan sicrhau bod Stryd Fawr Bagillt yn parhau i fod yn lle diogel a gwerth chweil i breswylio ynddo ar gyfer cenedlaethaur dyfodol.”