Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr Beicio Cenedlaethol 568

Published: 26/02/2015

Bydd rhan o’r llwybr troed cyhoeddus ar hyd Afon Dyfrdwy yn Sealand, sy’n ffurfio rhan o lwybr Beicio Cenedlaethol 568, ar gau rhwng y Bont Las a’r cyswllt â Foxes Lane o ddydd Llun 2 Mawrth 2015. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan feicwyr fynediad i lwybr amgen ar hyd Welsh Road, Foxes Lane o dan yr A494 a’r llwybr beicio sy’n rhedeg yn gyflin â’r ffordd hon; bydd llwybr amgen i gerddwyr drwyr A494. Bydd arwyddion amlwg ar gyfer y ddau lwybr. Mae cau’r llwybr yn rhan o ail gam y gwaith i gryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Natblygiad Safle Porth y Gogledd. Maer gwaith yn cael ei wneud gan gontractwyr VolkaStevin ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd ail gam y gwaith yn cymryd tua deufis i’w gwblhau. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: Maer cau yn hanfodol er mwyn galluogir gwaith i ddigwydd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi, ond gobeithiwn y bydd y llwybrau amgen yn gymorth i leihau’r anghyfleustra hwn.”