Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgyblion yn cymryd rhan mewn seremoni i nodi agor safle newydd

Published: 25/02/2015

Mae seremoni swyddogol wedi’i chynnal ar safle £30 miliwn Campws Dysgu Treffynnon. Maer prosiect hwn yn cael arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru trwy ei Rhaglen Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy’n gydweithrediad unigryw gydag awdurdodau lleol i greu cymunedau addysgol sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif yng Nghymru. Dechreuodd gwaith ar y safle yn ddiweddar, lle bydd ysgolion cynradd ac uwchradd newydd ar yr un safle, sef safle presennol yr Ysgol Uwchradd. Bydd un ysgol gynradd newydd yn disodli Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron a bydd yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol gynradd yn rhannu safle â chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed. Gwnaeth disgyblion or tair ysgol gymryd rhan mewn seremoni swyddogol torri tywarchen ddydd Mawrth 24 Chwefror ac roedd cynghorwyr, swyddogion, cynrychiolwyr y cwmni sy’n adeiladur ysgol, Galliford Try, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac o ysgolion bwydo’r Ysgol Uwchradd hefyd yn bresennol. Disgwylir i’r ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau presennol yn parhau i gael eu defnyddio tan hynny i sicrhau nad oes unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr. Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr arfaethedig a lle i 315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn yr adeilad diweddaraf or radd flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Mae manylion y cynigion, gan gynnwys taith rithwir 3D, ar gael ar wefan y Cyngor. Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Bydd y cyfleuster newydd trawiadol hwn yn rhoi amgylchedd dysgu y mae mawr ei angen i Dreffynnon a fydd yn ysbrydoli athrawon, disgyblion ar gymuned ehangach am flynyddoedd lawer. “Mae ein rhaglen Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, mewn cydweithrediad unigryw gydag awdurdodau lleol, yn ddatganiad gwir on cred yn ein pobl ifanc an hymrwymiad i roi cyfleusterau iddynt sy’n gyfrifol o ran yr amgylchedd ac yn flaengar o ran technoleg; amgylchedd syn ysbrydoli dysgwyr o bob oed a phob gallu. “Rwyn gobeithio i bawb a oedd yn rhan or seremoni torri tywarchen fwynhaur diwrnod.” Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Bydd y campws dysgu newydd cyffrous hwn yn Nhreffynnon yn cael ei adeiladu i safon uchel, i ddarparu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf ar cyfleoedd dysgu gorau in plant, pobl ifanc ar gymuned ehangach. Maer cynlluniau hyn yn rhan o broses a gynlluniwyd gan Sir y Fflint o fuddsoddi yn ei ysgolion dan Raglen Llywodraeth Cymru i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Edrychaf ymlaen at weld yr adeilad newydd pan fydd yn agor yn 2016.” Dywedodd Ian Evans, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Treffynnon: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig. Nid yn unig i Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol y Fron ac Ysgol Perth y Terfyn, a fydd yn symud ir adeilad newydd, ond i bob un or ysgolion partner cynradd a fydd yn anfon disgyblion i safle Campws Dysgu Treffynnon. Rydym wedi croesawu cynrychiolwyr o’r holl ysgolion i gymryd rhan yn y seremoni torri tywarchen heddiw. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i staff ein penseiri, Lovelock Mitchell, ein cwmni adeiladu, Galliford Try an Hawdurdod Lleol sydd wedi gweithio mor galed ac mor effeithiol i wneud y diwrnod hwn yn realiti.” Dywedodd Peter Davies, Pennaeth Ysgol y Fron ac Yvonne Barker, Pennaeth Ysgol Perth y Terfyn, Bydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn rhoi cyfleusterau i Dreffynnon i ddarparu addysg effeithiol yr 21ain ganrif ar adeg pan mae ei hangen fwyaf. Maer holl fudd-ddeiliaid yn Ysgol Perth y Terfyn ac Ysgol y Fron yn gyffrous iawn wrth ir prosiect, sydd wedi hen ddechrau ac sy’n mynd rhagddo yn ôl yr amserlen, fynd yn ei flaen.” Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try, Bob Merriman: “Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu lansiad y cynllun cyffrous hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu adeilad o ansawdd uchel ar gyfer yr ysgol, yn ogystal â gwella cyfleusterau ar gyfer addysg yn y rhanbarth.”