Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun newid ynni - peidiwch â methur cyfle!

Published: 26/02/2015

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i ymuno â chynllun prynu ynni ar y cyd ar gyfer Cymru gyfan, a ddylai eu galluogi i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Mae Cyd Cymru / Wales Together yn brosiect newid ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Newid ynni cyfunol yw pan mae nifer fawr o gartrefi yn dod at ei gilydd i brynu eu hynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru / Wales Together drafod gwell bargeinion, syn arwain at arbedion i ddefnyddwyr. Po fwyaf o bobl syn cymryd rhan, y mwyaf ywr potensial i gael bargen well. Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y cynllun yw dydd Sul yma, Mawrth 1. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Gyda Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ddydd Gwener yma, maen amserol i atgoffa trigolion Sir y Fflint i gofrestru gyda Cyd Cymru. Drwy ddod at ei gilydd i brynu ynni, gall cartrefi gael gwell bargeinion. Pan fyddwch yn cofrestru gyda Cyd Cymru nid oes unrhyw gost neu ymrwymiad i newid, ond unwaith y bydd y cynnig hwn ar gael ym mis Mawrth, byddwch yn gallu gweld faint o arian allech chi ei arbed cyn i chi benderfynu a ydych eisiau newid. Byddwch hefyd yn gallu gweld sut mae hyn yn cymharu â thariffau presennol y farchnad. Y llynedd, helpodd y cynllun aelwydydd ledled Cymru i arbed £185 y flwyddyn ar eu biliau ynni ar gyfartaledd. Gall trigolion gofrestru i dderbyn cynnig o bris heb unrhyw ymrwymiad ym mis Mawrth naill ai ar-lein yn www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 093 5902.