Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bws Cerdded ir Ysgol yn un poblogaidd

Published: 03/03/2015

Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn helpu disgyblion yn Ysgol Gynradd Queensferry i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel. Mewn ymdrech i ostwng tagfeydd a gwella diogelwch ar y ffyrdd, mae’r Uned wedi helpu’r ysgol i sefydlu ‘Bws Cerdded’ sy’n ffordd o gael plant ifanc i fwynhau cerdded i’r ysgol yn rheolaidd. Meddai Mrs Cathryn Lloyd, Pennaeth Ysgol Gynradd Queensferry: Mae’r Bws Cerdded yn llwyddiant mawr. Mae Miss Emma Westwood a Mrs Louise Salmon wedi bod yn gweithredu’r bws ers mis Hydref 2014 ynghyd â Ms Anita White sy’n rhiant gwirfoddol. Mae nifer y plant wedi codi’n raddol gan ei fod yn ddull hwyliog ac actif o gludo plant i’r ysgol ac mae’n ffordd o gynorthwyo’r rhieni/gofalwyr. Rydym hefyd wedi sylwi ar welliant mewn lefelau presenoldeb a bod y plant yn cyrraedd yr ysgol yn barod i ddysgu ar ddechrau’r dydd.” Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg a ymunodd â’r plant ar y Bws Cerdded: ”Roedd yn hyfryd cael bod yn rhan o’r Bws Cerdded a gweld y manteision i blant ysgol â’m llygaid fy hun. Mae’n ffordd ddelfrydol o osgoi mynd i’r ysgol yn y car ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n nod o ostwng lefelau traffig a thagfeydd ar ffyrdd a darparu llwybrau cerdded mwy diogel. Mae hefyd yn ymarfer corff addas i blant sy’n bwysig er mwyn sicrhau ffyrdd iach o fyw. Byddwn yn annog pob ysgol i greu un. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Yn Sir y Fflint credwn fod y Bws Cerdded yn haeddu ein cefnogaeth gan ei fod mor llesol mewn gwahanol ffyrdd; nid yn unig y mae’n llai o waith i rieni yn y bore, ond mae hefyd yn galluogi plant i gyrraedd yr ysgol bob dydd mewn dull iach ac addysgol sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.” Cefndir y bws cerdded Bydd y cydgysylltydd yn sicrhau bod o leiaf dau gynorthwy-ydd sy’n oedolion ar y bws, un ar y blaen (y ‘gyrrwr’) ac un ar y cefn (y tywysydd). Hefyd bydd un helpwr i bob pum plentyn, sy’n cerdded ar hyd llwybr penodol gan gasglu pob plentyn sy’n aros wrth ‘safleoedd bws’ penodol a cherdded gyda nhw i’r ysgol. Ar ôl ysgol, maent yn cerdded yn ôl ar hyd yr un llwybr. Mae’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn hyrwyddo ac yn annog pob ysgol gynradd i ystyried trefnu Bws Cerdded yn eu hysgol. Cysylltwch ag Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Sir y Fflint ar 01352 704529 os oes gennych ddiddordeb. Llun Yn y llun yn defnyddio’r Bws Cerdded mae disgyblion yr ysgol a’u helpwyr o Ysgol Gynradd Queensferry, ynghyd â’r Cynghorydd Chris Bithell.