Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymdeimlad o Le Saltney
Published: 16/05/2014
Mae gwaith wedi dechrau i wella safle gwledig ar River Lane yn Saltney ar ôl i
arian gael ei ddiogelu gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.
Mae’r safle, sy’n perthyn i Gyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn
cael ei ddatblygu gyda chyllid gan y Rhaglen Datblygu Gwledig a chymorth gan
Gadwyn Clwyd, Asiantaeth Datblygu Gwledig ar gyfer Sir y Fflint a Sir Ddinbych,
sydd wedi darparu 70 y cant o’r arian. Bydd y prosiect dechreuol yn costio tua
£30,000. Telir am y prosiect drwy Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu
Gwledig (EAFRD) drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o
gynllun tair blynedd i adfywio cymunedau gwledig a’u heconomïau.
Defnyddir yr arian i reoli’r coed a chael gwared ar brysglwyni er mwyn gosod
llwybr llwch calchfaen cylch, gwrych ar gyfer y bywyd gwyllt, gwaith celf a
golygfan.
Mae ceidwad yr arfordir Karen Rippin yn rheoli’r prosiect i Wasanaeth Cefn
Gwlad Sir y Fflint: “Mae’r olygfan yn cynnig golygfeydd godidog o’r afon, a
gellir gwylio gweithgarwch adar ac eger y Dyfrdwy. Bydd cyswllt yn cael ei
greu â’r llwybr beicio a bydd plac dolen gymuned yn cael ei osod gan yr artist
Mike Johnson sy’n gweithio gyda’r gymuned leol a grwpiau o ysgolion ar y
dyluniad ar hyn o bryd.”
Cafodd y gwrych ei blannu gyda chymorth gan raglenni Mentora Cyfoedion a Newid
CAIS.
I ymwelwyr bydd pwynt gwybodaeth yn tynnu sylw at fywyd gwyllt a threftadaeth,
gwaith celf, dwy fainc angorfa, gwrychoedd, ffensys a bydd cynefin bywyd gwyllt
newydd yn cael ei greu.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Bydd datblygu’r safle hwn yn ailgysylltu cymunedau Saltney a Saltney Ferry â’r
afon a bydd cyfleuster hamdden yn cael ei ddarparu i’r gymuned leol ac ymwelwyr
yr ardal. Bydd yn fan i deuluoedd gerdded a beicio gyda’i gilydd ac archwilio
llwybr yr arfordir gyda golygfa ddirwystr o’r afon.”
Meddai Sarah Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Threftadaeth yng Nghadwyn Clwyd:
“Bydd y prosiect hwn yn helpu i roi adnodd y gall trigolion lleol ei fwynhau a
bydd yn eu helpu i werthfawrogi’r hyn sydd ar garreg eu drws. Bydd hefyd yn
helpu i annog ymdeimlad o berchnogaeth i’r gymuned leol yn y safle.”
Nodyn i olygyddion
Ariennir prosiect Ymdeimlad o Le Saltney gan Gadwyn Clwyd drwy Gronfa
Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) drwy Gynllun Datblygu
Gwledig Llywodraeth Cymru.
Llun: Gwaith yn mynd rhagddo ar River Lane.