Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Art in the Library – Lliw yn y Llyfrgell

Published: 04/03/2015

Llyfrgell Treffynnon dydd Llun 2 Mawrth tan dydd Mawrth 31 Mawrth 2015 – Ffotograffiaeth Ceridwen Barkley Gwaith ffotograffiaeth bendigedig Ceridwen Barkley fydd y cyntaf o gyfres o arddangosfeydd i’w cynnal mewn llyfrgelloedd ledled Sir y Fflint yn ystod 2015 er mwyn arddangos gwaith artistiaid lleol. Nod Art in the Library – Lliw yn y Llyfrgell yw cynorthwyo artistiaid lleol, rhai sydd erioed wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, drwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith yn gyhoeddus. Drwy gydol y flwyddyn bydd rhaglen arddangosfeydd yn llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford; darluniau gan Scott Bongo a gwaith ffotograffiaeth gan Ceridwen Barkley. Meddai Ceridwen wrth sôn am ei gwaith: Mae ein bywydau mor brysur ac yn aml nid ydynt yn rhoi digon o amser i edrych ar y byd o’n cwmpas – i weld o ddifrif y rhyngweithio sy’n digwydd rhwng pobl neu anifeiliaid, dyfnder y lliw mewn plu neu ystumiau doniol mae angen i ni roi amser i arsylwi. “Dechreuodd fy angerdd tuag at ffotograffiaeth drwy chwilfrydedd ac mae wedi arwain at ymwybyddiaeth gynyddol o’r byd o’m cwmpas. Gobeithiaf fod fy lluniau’n portreadu rhywfaint o’r diddordeb a’r angerdd hwnnw.” Er fod ei lluniau’n cynnwys ffotograffau a dynnwyd yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen a Denmarc, ei hoff le i ddal natur ar ei orau yw cefn gwlad gogledd Cymru, sy’n darparu cefnlen brydferth. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: Mae hon yn rhaglen ardderchog. Nid yn unig y mae’n dangos sut y gall celf roi dimensiwn ychwanegol i ymweliad â’r llyfrgell, ond rwy’n filch hefyd fod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint a’n gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cefnogi ein doniau lleol fel hyn – drwy arddangos eu gwaith a chefnogi ein hartistiaid fel busnesau. Gellir gweld yr arddangosfa yn Llyfrgell Treffynnon drwy gydol mis Mawrth yn ystod oriau agor arferol.” I ganfod mwy am waith ffotograffiaeth Ceridwen Barkley edrychwch ar www.ceridwenbarkleyphotography.co.uk Nodiadau i Olygyddion Dau lun o’r arddangosfa: Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gwenno Jones ar gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu 01352 702471 Mae croeso i ffotograffwyr fynd i Lyfrgell Treffynnon i dynnu lluniau o’r arddangosfa – ewch at ddesg y llyfrgell ar ôl cyrraedd.