Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darganfod Llwyni - taflen newydd sy’n adrodd hanes gwarchodfa natur unigryw

Published: 05/03/2015

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi creu taflen newydd i arddangos Gwarchodfa Natur Llwyni, rhwng Ewlo a Chei Connah. Maer daflen yn tynnu sylw at y warchodfa unigryw hon, lle mae pobl a bywyd gwyllt yn byw ac yn ffynnu ochr yn ochr. Mae preswylwyr, datblygwyr lleol, grwp bywyd gwyllt lleol NEWwildlife a Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir wedi bod yn cydweithio ers y 1980au i sicrhau bod pob cam newydd o ddatblygiad yn yr ardal yn ystyriol o fywyd gwyllt. Yn 2000 daeth Llwyni yn Warchodfa Natur Leol oherwydd ei gwerth i fywyd gwyllt, pobl ac addysg. Maer warchodfa wedi ei diogelu fel rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Pyllau a Choetiroedd Cei Connah. Mae hefyd yn rhan o Safle Ardal Gadwraeth Arbennig Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Maer ffaith bod bywyd gwyllt yn ffynnu yng Ngwarchodfa Natur Llwyni heddiw yn dyst i waith partneriaeth y preswylwyr, y datblygwyr lleol a Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor Sir. Rydw i’n annog pobl i ddod draw a mwynhau’r ardal, lle mae pyllau newydd wedi eu creu a lle fedrwch chi weld dolydd llawn blodau a pherllan gymunedol arbennig. Mae angen diolch yn arbennig i’r canlynol am gynhyrchu’r daflen - Pip Perry, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni; tirfeddianwyr lleol, gan gynnwys Ian Roberts sydd wedi helpu Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad, gyda’r gwaith ymchwil; NEWwildlife; ac i David Wilson Homes am noddir daflen yn rhannol a chynnal y lansiad. Dywedodd Pip Perry, a chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu gwarchodfeydd natur ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au ac sy’n cadeirio Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni: “Sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol ar y Cyd Llwyni gan Gyngor Sir y Fflint yn 2000, i weithio gyda pherchnogion tir, cyrff statudol a gwirfoddol, preswylwyr lleol a datblygwyr i weithredu’r strategaeth ar gyfer Llwyni. Rydw i’n hapus iawn bod datblygiad diweddaraf David Wilson Homes wedi cynnwys creu llwybrau troed i drigolion ac ymwelwyr a gwella cynefin bywyd gwyllt. Dywedodd Steve Jackson, Cyfarwyddwr Gwerthiant David Wilson Homes North West: “Mae David Wilson Homes yn falch iawn o gefnogi Gwarchodfa Natur Llwyni a hyrwyddo golygfeydd prydferth Cei Connah. Fel adeiladwyr cynaliadwy a chydwybodol, rydym ni’n deall y pwyslais syn cael ei roi ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol. Rydym ni bob amser yn ceisio annog perchnogion ein tai i barchu’r amgylchedd, drwy weithredu cynlluniau fel yr un yma mewn cymunedau lleol a thrwy weithio â’r RSPB a Chymdeithas Gwenynwyr Prydain yn genedlaethol. Mae Wepra Green wedi ei hen sefydlu yn y gymuned bellach ac roeddem ni’n falch o dderbyn y cynnig i gymryd rhan.” I gael mwy o wybodaeth am yr achosion da y mae cynllun Our Space, Your Place David Wilson Homes North West wedi eu cefnogi, neu i wneud cais am gyllid, ewch i www.ourspaceyourplace.co.uk.