Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hen safleoedd tirlenwi yn cynhyrchu incwm sylweddol ir Cyngor Sir

Published: 04/03/2015

Mae dau safle tirlenwi ym Mwcle wedi cynhyrchu incwm o dros £400,000 i Gyngor Sir y Fflint mewn cyfnod o ddeuddeg mis. Caiff nwy methan ei gynhyrchu ar safle tirlenwi Brookhill a Standard wrth i’r gwastraff a adawyd yno bydru drwy broses dadelfennu biolegol anerobig. Caiff y nwy ei droi’n drydan gan beiriannau cynhyrchu trydan sy’n defnyddio nwy fel tanwydd, ac oddi yno, caiff y nwy ei fesur a’i ddosbarthu ar foltedd uchel (11,000 folt) i’r Grid Cenedlaethol. Yna, caiff yr ynni ei werthu mewn arwerthiant drwy’r Non Fossil Purchasing Agency yn ôl prisiau cyfredol trydan ar y farchnad, gan ddefnyddio cytundebau chwe mis a gymeradwyir gan y diwydiant. Yn ystod 2014, cynhyrchwyd cyfanswm o 4,300 megawat o drydan ar y ddau safle - sy’n ddigon i gyflenwi trydan i tua 1,700 o gartrefi bob blwyddyn. Cynhyrchwyd incwm o oddeutu £440,000 o’r nwy methan, sy’n creu ffrwd refeniw y mae ei ddirfawr angen ar y Cyngor Sir. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynhyrchu rhagor o ynni, gyda’r posibilrwydd o osod paneli solar ar y ddau safle tirlenwi. Mae disgwyl y byddai’r paneli PV greu rhagor o ynni i’w werthu i’r Grid Cenedlaethol, gan greu incwm o £50,000 y flwyddyn. Gallai hefyd fod yn gyfle i’r Cyngor greu ei gyflenwad ynni adnewyddadwy ei hun ar gyfer ei fflyd o gerbydau . Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden “Ar adeg pan fo’r Cyngor Sir yn wynebu toriadau llymach nag a welwyd erioed o’r blaen, rydym yn croesawu’r newyddion fod dau o’n cyn safleoedd tirlenwi’n cynhyrchu gymaint o incwm i’r awdurdod lleol - arian y gallwn ei ddefnyddio i wrthbwyso’r toriadau sy’n ein hwynebu. “Mae’r ynni adnewyddadwy y mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio hefyd yn helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni o ffynonellau ynni gwyrdd ac mae hefyd yn helpu i gadw at safonau ansawdd aer cenedlaethol.”