Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Uned Diogelwch Ffyrdd yn cefnogi deddf newydd i atal pobl rhag Gyrru dan Ddylanwad Cyffuriau

Published: 05/03/2015

Mae Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ar 2 Mawrth 2015 i ddal y rhieni sy’n peryglu bywydau pobl eraill oherwydd eu bod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac yn pennu terfynau cyfreithiol ar gyfer y sylweddau - sef cyffuriau anghyfreithlon a meddyginiaeth a geir ar bresgripsiwn - a ganiateir yn system gyrwyr tra maent yn gyrru. Bydd swyddogion o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn cario dyfais newydd a fydd yn caniatáu iddynt gynnal prawf ar ochr y ffordd i weld a yw gyrrwr wedi cymryd canabis neu gocên. Bydd y system yn caniatáu i swyddogion benderfynu mewn llai na 10 munud a oes gan yrwyr sylweddau anghyfreithlon yn eu cyrff, drwy gymryd swab o’u cegau. Bydd unrhyw yrrwr sy’n methu’r prawf yn cael ei arestio a’i gymryd i’r ddalfa lle cymerir sampl o’i waed. Yna, caiff y gwaed ei anfon i’w archwilio, ac os bydd y lefelau’n anghyfreithlon, caiff ei erlyn am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Os bydd y gyrrwr yn gwrthod cydymffurfio, caiff ei erlyn am wrthod rhoi sampl o waed i’w ddadansoddi. Y gosb o dan y drosedd newydd fydd gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis, gwaharddiad llwyr, dirwy o hyd at £5,000 a hyd at 6 mis yn y carchar neu’r ddau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Llywodraeth.- www.gov.uk/drug-driving-law neu drwyr Pwyllwch! - http://think.direct.gov.uk/ Os oes gan unrhyw un wybodaeth am bobl sy’n cymryd cyffuriau ac yn gyrru, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101. Neu, cysylltwch yn ddienw â Crimestoppers ar 0800 555 111. Mae manylion llawn i’w gweld hefyd ar wefan Heddlu Gogledd Cymru: http://www.north-wales.police.uk/