Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghori â thrigolion Sir y Fflint ynglyn â meysydd parcio

Published: 09/03/2015

Mae mesurau parcio a gorfodi yn allweddol er mwyn rheoli rhwydwaith priffyrdd effeithiol a chynorthwyo i osgoi tagfeydd. Er mwyn cynnal hyfywedd a bywiogrwydd cymuned / tref mae’n hanfodol rheolir defnydd o barcio oddi ar y stryd yn effeithiol. Mae’r Awdurdod yn dymuno darparu dull cyson ar gyfer parcio oddi ar y stryd trwy ehangu gofodau talu ac arddangos fydd yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion yr holl gymunedau lleol sy’n cynnig darpariaeth parcio ceir gyda 40 gofod neu fwy. Trwy osod strwythur prisio a chostau effeithiol, mae codi tâl wedi profi i fod yn ddull o annog cymudwyr i ddefnyddio’r meysydd parcio ar ymylon y dref a chanolfannau cymunedol, ac yn hyrwyddo gofodau sy’n agos at ganol trefi ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr arhosiad byr i gefnogi hyfywedd masnachol. Mae cyfanswm o ddeg strategaeth leol yn cael eu datblygu ar gyfer 44 maes parcio. Mae’r rhain yn berthnasol yn ardaloedd canlynol y Sir: Fflint Treffynnon Yr Wyddgrug Bwcle Cei Connah Queensferry Shotton Caergwrle Penarlâg Talacre Bydd pob strategaeth leol yn ceisio blaenoriaethu anghenion pobl anabl, preswylwyr lleol, busnesau a’u cwsmeriaid, a hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy trwy argaeledd a phrisiau effeithiol gofodau parcio. Bydd cynllun trwydded parcio yn y gweithle hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ardaloedd parcio i weithwyr yn yr Wyddgrug (Neuadd y Sir) a Fflint. Mae’r rhain yn feysydd parcio dynodedig o fewn y trefniadau rheoli Meysydd Parcio lleol a bydd angen trwyddedau ar gyfer gweithwyr a Chynghorwyr sy’n gweithio ac yn ymweld âr adeiladau hyn yn rheolaidd. Gellir canfod manylion llawn y strategaethau hyn, gan gynnwys y costau arfaethedig, ar wefan y Cyngor, ynghyd â dolen i’r arolwg. Gwahoddir trigolion Sir y Fflint i rannu eu safbwyntiau ar y cynigion i godi tâl ar gyfer parcio mewn meysydd parcio yng nghymunedau a threfi’r sir. Mae ymgynghoriad yn awr wedi dechrau, gyda Chynghorwyr Sir, Tref a Chymuned ac o heddiw (Dydd Llun 9 Mawrth), gwahoddir aelodau’r cyhoedd i rannu eu safbwyntiau ar agweddau o’r strategaeth newydd. Gellir canfod manylion yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Mae adolygu prisiau meysydd parcio yn un o’r cynigion sy’n cael ei ystyried fel rhan o’n her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £18+m yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Cytunwyd ar y cynnig i godi tâl am barcio mewn meysydd parcio ledled y Sir fel rhan o’r cynigion i osod y gyllideb. Mae’r broses ymgynghori yn awr wedi dechrau ac mae gan yr unigolion hyd at 29 Mawrth i leisio eu barn, cyn i Gabinet y Cyngor ystyried adroddiad ynglyn â’r strategaeth parcio ceir ym mis Ebrill 2015.”