Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn croesawu adroddiad blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru

Published: 11/03/2015

Mae adroddiad allanol blynyddol am Gyngor Sir y Fflint a ryddhawyd heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth) yn dangos bod y Cyngor yn awdurdod cyhoeddus sy’n cael ei redeg yn dda ac yn effeithlon ac sy’n parhau i berfformio’n dda. Mae’r Cyngor wedi croesawu ei Adroddiad Gwella Blynyddol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (WAO). Ar y cyfan, mae’r casgliadau’n ffafriol, ac mae’r rheoleiddwyr allanol yn hyderus bod record gref y Cyngor yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i wynebu heriau ariannol yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn dangos na fu’r Cyngor yn destun pryder rheoleiddio nac ymyrraeth gan y Llywodraeth yn ystod cyfnod anodd i lywodraeth leol. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud cynnydd da’n gyffredinol o ran rhoi ei flaenoriaethau  gwella ar waith ac mae’n perfformio’n dda mewn nifer o feysydd gwasanaeth. Tynnir sylw penodol at berfformiad ysgolion y Sir a dywedir eu bod yn cynnig gwerth am arian. Caiff gwaith y Cyngor i helpu i liniaru effaith y toriadau i fudd-daliadau lles ac i leihau tlodi tanwydd hefyd ei ganmol.   Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan archwilwyr allanol y Cyngor yn amlygu’r ffaith bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i berfformio’n dda. O dan y weinyddiaeth bresennol, mae’r Cyngor wedi parhau i wella yn ystod y tair blynedd diwethaf ym mhob un o’r meysydd y nododd Swyddfa Archwilio Cymru fod angen eu gwella. Er gwaethaf y pwysau ariannol dwys, mae Sir y Fflint yn parhau i lwyddo yn y meysydd y mae’n rhoi blaenoriaeth iddynt: tai, gofal cymdeithasol, addysg a’r economi.” Ychwanegodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Gallwn ein bodloni’n hunain fod Sir y Fflint yn gwella o’r naill flwyddyn i’r llall. Rydym yn Gyngor uchel ei berfformiad sy’n gost-effeithiol; nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau a byddwn bob amser yn ymdrechu i wella. Fodd bynnag, mae’r dyfodol ariannol yn peri pryder mawr i ni a bydd yn anodd iawn cynnal y llwyddiant yn wyneb gostyngiadau sylweddol yn ein cyllid.