Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y diweddaraf am y cynllun datblygu tai arloesol

Published: 13/03/2015

Mae rhaglen arloesol i adeiladu cartrefi Cyngor newydd a thai fforddiadwy yn Sir y Fflint yn mynd rhagddi’n dda iawn, fel y bydd Aelodaur Cabinet yn clywed ddydd Mawrth (17 Mawrth). Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint yn uchelgeisiol ac yn cynnwys codi 500 o gartrefi newydd yn y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf - 200 ohonynt yn dai Cyngor. Bydd y rhaglen yn dechrau gydag ailddatblygu tri safle - dau safle trefol ac un gwledig. Sef safle hen fflatiau deulawr yn y Fflint sydd wedi’u clirio i wneud lle i oddeutu 95 o dai a fflatiau, safle hen Custom House School yng Nghei Connah, a safle gwledig yng Nghoed-llai. Mae proses gaffael mawr ar y gweill i benodi partner i ddatblygur rhaglen. Y pedwar sefydliad sy’n rhan o’r trafodaethau caffael gydar Cyngor yw: Galliford Try; Keepmoat; Lovell a Wates Living Space, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi fis Mai 2015. Ochr yn ochr âr gwaith caffael, mae Safon Tai Sir y Fflint yn cael ei ddatblygu i lywio cynllun a manyleb y tai newydd arfaethedig, gan gynnwys cysondeb ac ansawdd da o ran edrychiad mewnol ac allanol y tai, effeithlonrwydd ynni a pharcio digonol. Maer rhaglen hefyd yn cynnwys datblygiadau posibl mewn rhannau eraill or sir, sy’n cynnwys cartrefi iw gwerthu’n breifat ac adeiladu eiddo dibreswyl. Ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd ir Cabinet fis Medi, mae safleoedd dangosol ychwanegol wedi eu hawgrymu at y rhaglen, gan gynnwys safle’r hen Orsaf Heddlu a’r Llys Ynadon yn y Fflint ac Ysgol Delyn yn yr Wyddgrug. Argymhellir bod Aelodaur Cabinet yn cymeradwyo cynnwys y safleoedd newydd yn y cynllun. Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ir Cabinet ym mis Mai 2015 i adrodd ar ganlyniadaur broses gaffael. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Maen braf gweld y rhaglen yn mynd rhagddi’n dda wrth i ni symud yn nes tuag at gyrraedd ein nod o ddarparu tai fforddiadwy sydd wir eu hangen yn y Sir. Yn ogystal â hynny, bydd y datblygiadau newydd arfaethedig o fudd i bobl leol gan eu bod yn creu gwaith a swyddi i fusnesau lleol.” Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Rydw i’n falch o gyhoeddi’r cyfle cyffrous hwn i gyflawni blaenoriaethaur Cyngor o ran darparu Cartrefi Cyngor newydd, tai fforddiadwy - a swyddi - i bobl Sir y Fflint. Gydar Cyfrif Refeniw Tai cyn bo hir yn dod yn hunangyllidol, rydym ni’n falch ein bod nin gallu buddsoddi mewn tai fforddiadwy yn y Sir. Mae ein cyhoeddiad diweddar i fuddsoddi £20 miliwn i wella cartrefi presennol y Cyngor yn dangos ein hymrwymiad.”