Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Pryni Ynni - Ymestyn y terfyn amser

Published: 18/03/2015

Mae gan drigolion Sir y Fflint tan ddydd Sul 22 Mawrth i gofrestru ar gyfer cynllun prynu ynni ar y cyd ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn eu galluogi i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Mae Cyd Cymru / Wales Together yn brosiect newid cyflenwyr ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae newid cyflenwr ynni ar y cyd yn golygu bod nifer fawr o gartrefi’n dod at ei gilydd i brynu eu hynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru / Wales Together ddod o hyd i’r prisiau gorau. Ers y terfyn amser gwreiddiol (sef 1 Mawrth), mae Cyd Cymru / Wales Together ac energyhelpline wedi sicrhau tariffau dau danwydd (nwy a thrydan) unigryw a all arbed £429 y flwyddyn i gartref cyffredin yn y DU. Maent hefyd wedi sicrhau amryw o dariffau ynni unigryw eraill ar gyfer trydan yn unig, cwsmeriaid economi 7, mesuryddion rhagdalu a mwy. Mae’n hawdd iawn newid ond dim ond drwy gofrestru â Chyd Cymru / Wales Together y gallwch elwa o’r tariffau unigryw hyn. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o Gabinet yr Amgylchedd: “Gallwch fod yn rhan o’r prosiect newid cyflenwyr ynni ar y cyd hwn drwy edrych ar wefan www.cydcymru-energy.com neu ffonio’r ganolfan gyswllt ar 0800 093 5902. Mae’r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 8pm, a dydd Sadwrn a dydd Sul 9am tan 5pm. Ceisiwch gael bil ynni diweddar wrth law (nwy, trydan neu’r ddau) i’ch helpu i ateb rhai o’n cwestiynau. Wrth gofrestru â Chyd Cymru nid oes unrhyw gostau nac unrhyw orfodaeth arnoch i newid, ond bydd modd i chi weld cymaint y gallech ei arbed – a chewch tan ddydd Sul 22 Mawrth i benderfynu p’un a ydych am newid ai peidio.” Mae prosiect newid cyflenwyr ynni ar y cyd Cyd Cymru / Wales Together: yn rhad ac am ddim i gofrestru yn rhad ac am ddim i newid, os ydych yn dymuno gwneud hynny ar gael i bawb sy’n byw yng Nghymru ar gael i bob cartref waeth beth fo’ch incwm neu fath o eiddo cyn belled a’ch bod yn talu eich bil ynni yn uniongyrchol i gwmni ynni ar gael i gwsmeriaid mesuryddion rhagdalu ac mae’n bosibl y bydd modd iddynt newid hyd yn oed os oes arian yn ddyledus i gyflenwr ynni presennol yn dangos i chi sut y gallech arbed ar y cynigion tariff ynni newydd a holl dariffau eraill y farchnad cyn i chi benderfynu newid yn gadael i chi elwa o un o’r tariffau unigryw a ganfuwyd yn arbennig gennym. * Cyfrifir yr arbediad yn erbyn bil cyfartalog o £1,305 fel y cyfrifwyd gan Ofgem ym mis Chwefror 2015. Mae pob cyfrifiad yn seiliedig ar gartref sy’n gwneud defnydd cyfartalog o ddau danwydd ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol misol. Mae defnydd cyfartalog yn cael ei ddiffinio gan OFGEM fel 13,500 kWh y flwyddyn o nwy a 3,200 kWh y flwyddyn o drydan safonol. **Mae’r tariffau buddugol yn costio £876 y flwyddyn am nwy a thrydan safonol ar gyfraddau defnydd cyfartalog gan dalu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol. Y tro diwethaf i dariff fod mor rhad â hynny oedd mis Tachwedd 2010. Mae defnydd cyfartalog yn cael ei ddiffinio gan OFGEM fel 13,500 kWh y flwyddyn o nwy a 3,200 kWh y flwyddyn o drydan safonol.