Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad Swyddogol – Sir y Fflint yn Cysylltu

Published: 09/05/2014

Bydd canolfan newydd y cwsmer y Cyngor yn y Fflint yn cael ei hagor yn swyddogol gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ddydd Gwener 16 Mai. Yn y ganolfan, ar Stryd yr Eglwys, bydd cwsmeriaid yn gallu cael gwybodaeth a chysylltu â gwasanaethau allweddol y Cyngor Sir, gan gynnwys tai, Streetscene, cyngor ar fudd-daliadau a lles, Bathodynau Glas, Teithio Rhad a Threth y Cyngor. Gan adeiladu ar lwyddiant canolfan gyntaf Sir y Fflint yn Cysylltu, yn Nhreffynnon, mae’r Cyngor wedi gweithio unwaith eto mewn partneriaeth gyda Chanolfan Byd Gwaith a Mwy a Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig ar gyfer trigolion lleol mewn amgylchedd modern a chroesawgar. Mae’r ganolfan ar lawr cyntaf Swyddfeydd y Sir, yn union gyferbyn â’r Llyfrgell, ac mae ar agor o 8.30am tan 6pm dydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am tan 12 hanner dydd ar ddydd Sadwrn. Mae yno hefyd beiriant talu hunan wasanaeth a fydd yn galluogi pobl i dalu unrhyw gyfrif y Cyngor Sir a bydd aelodau Undeb Credyd Sir y Fflint ac Undeb Credyd Gogledd Cymru yn gallu ei ddefnyddio i dalu i mewn. Bydd Ymgynghorwyr Gwasanaeth y Cwsmer Sir y Fflint yn Cysylltu wrth law i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio’r peiriannau newydd hyn. Nodyn i Olygyddion Cyfle am lun – Fe’ch gwahoddir i anfon newyddiadurwr a ffotograffydd i’r agoriad swyddogol Sir y Fflint yn Cysylltu, llawr gwaelod swyddfa Cyngor Sir y Fflint, Stryd yr Eglwys, y Fflint ddydd Gwener 16 Mai am 2.15pm.