Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ad-drefnu gwasanaethau llyfrgell a chanolfannau cysylltu Sir y Fflint

Published: 12/03/2015

Heddiw (dydd Iau 12 Mawrth) bydd y Cyngor Sir yn cyhoeddi cynigion i foderneiddio ac ad-drefnu gwasanaethau’r llyfrgell yn Sir y Fflint ac agor rhagor o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu. Bydd yn gofyn am farn pobl y Sir am  gynlluniau i gyflwyno rhwydwaith effeithiol a chynaliadwy o lyfrgelloedd a Chanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu mewn chwe phrif leoliad, sef Canolfannau Hamdden Cei Connah, yr Wyddgrug, Bwcle, Treffynnon a Glannau Dyfrdwy.   Mae cynnig gerbron i agor llyfrgell newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a fyddai’n wasanaethu cymunedau Penarlâg, Mancot a Queensferry lle mae cyfleusterau rhan amser ar hyn o bryd mewn hen adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml. Gallai’r llyfrgell newydd fod ar agor i’r cyhoedd erbyn mis Ionawr 2016. Yn unol ag ymdrechion y Cyngor i  gynnwys cymunedau lleol yn y gwaith o redeg rhai gwasanaethau, bydd yn  gofyn i bobl  Saltney, Mynydd Isa, Helygain a’r Hôb, lle mae llyfrgelloedd rhan amser, a fyddai ganddynt ddiddordeb cynnal naill ai’r adeilad neu’r gwasanaeth. Gall y Cyngor ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i’r gymuned neu  grwpiau elusennol er mwyn iddyn nhw redeg gwasanaethau. Bydd y posibilrwydd o sefydlu llyfrgell bro a rhai gwasanaethau Sir y Fflint yn Cysylltu mewn adeilad a reolir gan y gymuned yn Brychdyn yn cael ei archwilio yn ystod y misoedd nesaf.  Mae gan y Cyngor dair Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar hyn o bryd, a hynny yn Nhreffynnon, y Fflint a Chei Connah. Yno gall y cyhoedd fanteisio ar yr holl wasanaethau o dan yr un to. Bydd dwy Ganolfan arall yn agor yn ystod y misoedd nesaf yn Llyfrgell Bwcle a Llyfrgell yr Wyddgrug . Mae’r Cyngor yn wynebu toriadau enfawr ac mae’n gorfod arbed dros £18 miliwn dros y 12 mis nesaf yn unig. Bydd angen arbed llawer rhagor yn ystod y blynyddoedd wedyn hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: Fel y mae pobl Sir y Fflint yn gwybod, mae her enfawr yn wynebu’r Cyngor o ran darparu gwasanaethau â llai o adnoddau. Rydym wedi bod yn ystyried ffyrdd arloesol o geisio cynnal gwasanaethau, gan eu darparu mewn ffyrdd gwahanol neu mewn llefydd gwahanol. Mae rhaglen Sir y Fflint yn Cysylltu yn enghraifft o hyn eisoes a bydd yn ehangu i ddod â gwasanaethau’n agosach at y cymunedau. Drwy ymgysylltu â’n cymunedau lleol, rydym yn ymdrechu i gael hyd i atebion hirdymor a fydd,  gobeithio, yn ein galluogi i barhau i gynnig gwasanaethau. Mae hyn yn  gwbl hanfodol mewn cyfnod o doriadau llym mewn gwasanaethau cyhoeddus yn genedlaethol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:  Er ein bod wedi cynnal ein rhwydwaith llyfrgelloedd yn Sir y Fflint, mae’n  rhaid i ni’n awr ystyried ffyrdd gwahanol o ddarparu’r gwasanaeth, diogelu ei safon a gwella’r cyfleusterau sydd ar gael. Er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, gallem annog y rhai sy’n defnyddio’r llyfrgell i fanteisio ar yr amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau hamdden yn yr adeilad, a’r sba. Byddai’r rhai sy’n defnyddio’r cyfleusterau hamdden hefyd yn gallu manteisio ar y llyfrau, y cyfrifiaduron a’r cyfleoedd yn y llyfrgell i astudio.” Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad ar y cynigion ddydd Mawrth 17 Mawrth. Yn dilyn cyfnod ymgynghori ynghylch y cynigion ar gyfer creu llyfrgell yng Nghanolfan Hamdden G lannau Dyfrdwy, cyflwynir adroddiad arall i un o’r Pwyllgorau Craffu ac adroddiad arall i’r Cabinet ym mis Mai.