Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithio mewn partneriaeth i greu cyfleoedd gwaith i bobl leol

Published: 26/03/2015

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a busnesau lleol, Delyn Safety a Jackson Fire and Security, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i bobl leol. Cafodd y bartneriaeth ei sefydlu drwy raglen Esgyn, sef cynllun uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru i greu 5,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant, erbyn diwedd 2017, i bobl ar hyd a lled Cymru syn byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio. Nid rhaglen ar gyfer pobl sy’n ddi-waith dros dro yw hon, ond ar gyfer pobl sy’n ddi-waith ers dros chwe mis. Dyma’r rhai sy’n ei chael yn anoddach cael hyd i waith, ac maent yn cynnwys rhieni sengl, oedolion heb ddim, neu prin ddim cymwysterau ffurfiol, pobl â record wael o ran gwaith a phobl anabl. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod pobl sy’n byw mewn cartrefi sydd â’r nodweddion hyn yn llawer llai tebygol o gael hyd i waith na neb arall. Mae Darrell Griffiths wedi bod yn ddiwaith am dros 12 mis a chafodd gyfle i gael profiad gwaith am chwe wythnos gyda Delyn Safety UK Ltd yn yr Wyddgrug. Aeth y Cynghorydd Derek Butler i Delyn Safety yn ddiweddar i gyfarfod â Darrell a’r tîm, ac i gyflwyno tystysgrif i Darrell am yr hyn y mae wedi’i gyflawni. Dywedodd: “Mae hwn yn gynllun gwych gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn fwy na bodlon ei gefnogi - mae sicrhau gwaith a hyfforddiant i bobl yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor. Un o’r prosiectau peilot oedd hwn, o safbwynt y busnes a thîm Esgyn, ac mae’r bartneriaeth yn cryfhau o hyd.” Meddai Mike Joy o Delyn Safety: “Mae Delyn Safety UK Ltd wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o raglen Esgyn a hoffem gefnogi’r prosiect eto yn y dyfodol. Gobeithio bod Darrell wedi dysgu am ffyrdd newydd o weithio a bod ei ragolygon o ran cael hyd i waith wedi gwella.” Dywedodd Darrell Griffiths: “Mae dirfawr angen rhaglen Esgyn yn y gymuned i helpu’r rhai sy’n ddiwaith ers cyfnod maith i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Dim ond drwy gael profiadau gwaith y mae gwneud hyn, a llwyddo i gael hyd i waith. Mi wnes i fwynhau fy mhrofiad gwaith i’n arw, dysgais sgiliau newydd ac mae hynny’n gam ymlaen yn fy ymdrech i gael gwaith.” Pennawd: O’r chwith i’r dde: Steve Hand, Lydia Gent (Jackson Fire and Security), Teresa Allen (Cymunedau yn Gyntaf), Darrell Griffiths (gyda’i dystysgrif), y Cynghorydd Derek Butler a Mike Joy (Delyn Safety).