Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr Ysgolion iach

Published: 23/03/2015

Mae ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog sy’n cydnabod ei hymrwymiad i hybu iechyd a lles. Ysgol Mynydd Isa ywr bedwaredd ysgol yn y sir i ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach. Maer Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cael ei dyfarnu i ysgolion sydd wedi cyrraedd y safonau uchaf o ran iechyd a lles. Er mwyn ennill y wobr hon, bydd rhaid i ysgolion fod wedi cymryd rhan yn y cynllun am o leiaf naw mlynedd, ac wedi cwmpasu a chynnal pob un or saith thema iechyd a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r saith thema iechyd: · Bwyd a ffitrwydd · Yr amgylchedd · Hylendid · Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol · Datblygiad personol a pherthnasoedd · Diogelwch · Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau Maer holl staff yn Ysgol Mynydd Isa yn cymryd rhan weithredol yn y cynllun ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd iechyd a lles ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan. Dywedodd y Pennaeth, Mr Richard Collett: “Fel ysgol, rydym yn falch iawn or gydnabyddiaeth genedlaethol hon. Mae iechyd a lles pawb yn ein hysgol wedi bod yn flaenoriaeth i ni a bydd yn parhau felly bob amser. Mae llawer iawn o waith caled wedi mynd i ennill y wobr hon a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi cymryd rhan - staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr.” Yn yr adroddiad asesu, nododd yr asesydd arweiniol, Mrs Gill Waring: “Nid oes unrhyw amheuaeth bod Ysgol Mynydd Isa yn ysgol iach ac yn llawn haeddu ei Gwobr Ansawdd Genedlaethol. Mae iechyd a lles ar cysyniad ysgolion iach wedi’u hymgorfforin llawn ym mywyd a diwylliant yr ysgol. Nodwedd ragorol a nodwyd yn yr ymweliad asesu oedd y lefel uchel iawn o ymgysylltiad a ddangoswyd gan bawb syn ymwneud â bywyd yr ysgol; y rhieni/gofalwyr, disgyblion, llywodraethwyr a’r staff. Roedd yr ymdeimlad o werth yn niwylliant yr ysgol yn disgleirio ac roedd hyn yn amlwg o’r gofal ar parch a ddangosodd y disgyblion a’r staff tuag at ei gilydd.” Wrth gyflwynor wobr, dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin: “Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn gofyn i ysgolion ddangos eu bod wedi ymrwymon gadarn i ddatblygur ysgol gyfan fel lleoliad syn hybu iechyd. Ystyrir bod yr ysgolion syn ennill y wobr lefel uchel hon yn rhagorol, felly mae hyn wedi bod yn gyflawniad gwych a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran.” Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Llongyfarchiadau i bawb yn yr ysgol. Maer wobr a chael cydnabyddiaeth o Ysgol Iach yn haeddiannol a dylair ysgol fod yn falch iawn or cyflawniad.” Lluniau 8770 - cyflwyniad i ddisgyblion ysgol fabanod Ysgol Mynydd Isa – o’r chwith ir dde - Y Cyng Glenys Diskin, Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) Claire Broad, Cadeirydd y Llywodraethwyr - Andy Davies, y Cynghorydd Chris Bithell, Emma Curtis (Dirprwy Bennaeth - Babanod) 8741 - cyflwyniad i ddisgyblion iau Ysgol Mynydd Isa – o’r chwith ir dde - Y Cyng Glenys Diskin, Claire Broad, Sian Salisbury (Dirprwy Bennaeth – Adran Iau), Cadeirydd y Llywodraethwyr - Andy Davies, y Cynghorydd Chris Bithell, Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint).