Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Glanhau Afon Dyfrdwy

Published: 27/03/2015

Yn ddiweddar bu dau ddeg pedwar o wirfoddolwyr o Glwb Rheoli Gwlyptiroedd a Blodau Gwyllt Dyfrdwy yn rhoi help llaw i lanhau rhan o lannau Afon Dyfrdwy. Ymunodd y Clwb â Warden Arfordirol Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, Karen Rippin a Steve Hughes o Waith Tata Colors yn Shotton i gerdded ar hyd y glannau yn clirio sbwriel a olchwyd i’r lan ar lanw’r gaeaf. Dywedodd Karen Rippin, y Warden Arfordirol: “Plastigion oedd y sbwriel yn bennaf ond roedd yno hefyd hen deiars, metel sgrap, nifer o arwyddion tai Ar Werth a hyd yn oed ysgol blygu bren. Dywedodd Steve Hughes o waith Tata Colors yn Shotton: “Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Chlwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy ers blynyddoedd lawer bellach ac mae ein gweithgareddau wedi amrywio o ymgyrchoedd i lanhau’r aber i ddiwrnodau torri coed a gwneud sglodion.” Dywedodd Alex Williams o Glwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy “Mae Clwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy wastad wedi chwarae rhan weithredol mewn cadwraeth er mwyn cadwr aber mewn cyflwr penigamp ar gyfer adar a bywyd gwyllt ac mae gwneud hynnyn hollbwysig. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng gwirfoddolwyr, busnesau lleol ar Cyngor Sir yn ffordd amhrisiadwy o gadw ein hamgylchedd a hoffem ddiolch i Glwb Blodau Gwyllt Dyfrdwy ac i Tata Colors am eu cymorth parhaus. Lluniau Yn y llun yn clirio rhan o Afon Dyfrdwy mae gwirfoddolwyr o Glwb Rheoli Gwlyptiroedd a Blodau Gwyllt Dyfrdwy, Karen Rippin y Warden Arfordirol a Steve Hughes o waith Tata Colors yn Shotton